Pwyll Pendeuic Dyuet
1 PWYLL, Pendeuic Dyuet, a oed yn arglwyd ar seith
2 cantref Dyuet. A threigylgweith yd oed yn
3 Arberth, prif lys idaw, a dyuot yn y uryt ac yn y
4 uedwl uynet y hela. Sef kyueir o'y gyuoeth a uynnei y
5 hela, Glynn Cuch. Ac ef a gychwynnwys y nos honno
6 o Arberth, ac a doeth hyt ym Penn Llwyn Diarwya, ac
7 yno y bu y nos honno. A thrannoeth yn ieuengtit y
8 dyd kyuodi a oruc, a dyuot y Lynn Cuch i ellwng e
9 gwn dan y coet. A chanu y gorn a dechreu dygyuor yr
10 hela, a cherdet yn ol y cwn, ac ymgolli a'y gydymdeithon.
11 Ac ual y byd yn ymwarandaw a llef yr
12 erchwys, ef a glywei llef erchwys arall, ac nit oedynt
13 unllef, a hynny yn dyuot yn erbyn y erchwys ef. Ac ef
14 a welei lannerch yn y coet o uaes guastat; ac ual yd oed
15 y erchwys ef yn ymgael ac ystlys y llannerch, ef a welei
16 carw o ulaen yr erchwys arall. A pharth a pherued y
17 lannerch, llyma yr erchwys a oed yn y ol yn ymordiwes
18 ac ef, ac yn y uwrw y'r llawr.
19 Ac yna edrych ohonaw ef ar liw yr erchwys, heb
20 hanbwyllaw edrych ar y carw. Ac o'r a welsei ef o
21 helgwn y byt, ny welsei cwn un lliw ac wynt. Sef lliw
22 oed arnunt, claerwyn<ms. p. 2>llathreit, ac eu clusteu yn
23 gochyon. Ac ual y llathrei wynnet y cwn, y llathrei
24 cochet y clusteu. Ac ar hynny at y cwn y doeth ef, a
1 gyrru yr erchwys a ladyssei y carw e ymdeith, a llithyaw
2 y erchwys e hunan ar y carw.
3 Ac ual y byd yn llithiau y cwn, ef a welei uarchauc
4 yn dyuot yn ol yr erchwys y ar uarch erchlas mawr; a
5 chorn canu am y uynwgyl, a gwisc o urethyn llwyt tei
6 amdanaw yn wisc hela. Ac ar hynny y marchawc a
7 doeth attaw ef, a dywedut ual hynn wrthaw, "A unben,"
8 heb ef, "mi a wnn pwy wytti, ac ny chyuarchaf i well it."
9 "Ie," heb ef, "ac atuyd y mae arnat o anryded ual nas
10 dylyei." "Dioer," heb ef, "nyt teilygdawt uy anryded
11 a'm etteil am hynny." "A unben," heb ynteu, "beth
12 amgen?" "Y rof i a Duw," hep ynteu, "dy anwybot
13 dy hun a'th ansyberwyt." "Pa ansyberwyt, unben, a
14 weleist ti arnaf i?" "Ny weleis ansyberwyt uwy ar
15 wr," hep ef, "no gyrru yr erchwys a ladyssei y carw e
16 ymdeith, a llithiau dy erchwys dy hun arnaw; hynny,"
17 hep ef, "ansyberwyt oed: a chyn nyt ymdialwyf a thi,
18 y rof i a Duw," hep ef, "mi a wnaf o anglot itt guerth
19 can carw."
20 <ms. p. 3>"A unbenn," hep ef, "o gwneuthum gam, mi a
21 brynaf dy gerennyd." "Pa delw," hep ynteu, "y
22 pryny di?" "Vrth ual y bo dy anryded, ac ny wnn i
23 pwy wytti." "Brenhin corunawc wyf i yn y wlat yd
24 hanwyf oheni." "Arglwyd," heb ynteu, "dyd da itt;
25 a pha wlat yd hanwyt titheu oheni?" "O Annwuyn,"
26 heb ynteu. "Arawn urenhin Annwuyn wyf i."
27 "Arglwyd," heb ynteu, "pa furyf y caf i dy gerennyd
28 di?" "Llyma wyd
1 gyferbyn y gyuoeth a'm kyuoeth inheu yn ryuelu arnaf
2 yn wastat. Sef yw hwnnw, Hafgan urenhin o Annwuyn.
3 Ac yr guaret gormes hwnnw y arnaf, a hynny a elly yn
4 haut, y keffy uygherennyd." "Minnheu awnaf hynny,"
5 heb ynteu, "yn llawen. A manac ditheu y mi pa furyf
6 y gallwyf hynny." "Managaf," heb ynteu. "Llyna
7 ual y gelly; mi a wnaf a thi gedymdeithas gadarn. Sef
8 ual y gwnaf, mi a'th rodaf di y'm lle i yn Annwuyn, ac a
9 rodaf y wreic deccaf<ms. p. 4>a weleist eiroet y gyscu gyt a thi
10 beunoeth, a'm pryt innheu a'm ansawd arnat ti, hyt na
11 bo na guas ystauell, na swydawc, na dyn arall o'r a'm
12 canlynwys i yroet, a wyppo na bo miui uych ti. A
13 hynny," heb ef, "hyt ym penn y ulwydyn o'r dyd auory.
14 Ac kynnadyl yna yn y lle hon." "Ie," heb ynteu,
15 "kyt bwyf i yno hyt ympenn y ulwydyn, pa gyuarwyd a
16 uyd ymi o ymgael a'r gwr a dywedy di?" "Blwydyn,"
17 heb ef, "y heno, y mae oet y rof i ac ef, ar y ryt. A
18 byd di i'm rith yno," heb ef. "Ac un dyrnaut a rodych
19 di idaw ef; ny byd byw ef o hwnnw. A chyt archo ef
20 yti rodi yr eil, na dyro, yr a ymbilio a thi. Yr a rodwn
21 i idau ef hagen, kystal a chynt yd ymladei a mi drannoeth."
22 "Ie," heb y Pwyll, "beth a wnaf i y'm
23 kyuoeth?" "Mi a baraf," hep yr Arawn, "na bo i'th
24 gyuoeth na gwr na gwreic a wyppo na bo tidi wwyf i.
25 A miui a af i'th le di." "Yn llawenn," hep y Pwyll, "a
26 miui a af ragof." "Dilesteir uyd dy hynt ac ny russya
27 dim ragot, yny delych y'm kyuoeth i: a mi a uydaf
28 hebryngyat arnat."
1 <ms. p. 5>Ef a'y hebryghaud yny welas y llys a'r kyuanned.
2 "Llyna," hep ef, "y llys a'r kyuoeth i'th uedyant. A
3 chyrch y llys. Nit oes yndi nep ni'th adnappo; ac wrth
4 ual y guelych y guassanaeth yndi, yd adnabydy uoes y
5 llys." Kyrchu y llys a oruc ynteu. Ac yn y llys ef a
6 welei hundyeu ac yneuadeu, ac ysteuyll, a'r ardurn teccaf
7 a welsei neb o adeiladeu. Ac y'r neuad y gyrchwys y
8 diarchenu. Ef a doeth makwyueit a gueisson ieueinc
9 diarchenu, a phaup ual y delynt kyuarch guell a wneynt
10 idaw. Deu uarchauc a doeth i waret i wisc hela y
11 amdanaw, ac y wiscaw eurwisc o bali amdanaw.
12 A'r neuad a gyweirwyt. Llyma y guelei ef teulu ac
13 yniueroed, a'r niuer hardaf a chyweiraf o'r a welsei neb
14 yn dyuot y mywn, a'r urenhines y gyt ac wynt, yn deccaf
15 gwreic o'r a welsei neb, ac eurwisc amdanei o bali
16 llathreit. Ac ar hynny, e ymolchi yd aethant, a chyrchu
17 y bordeu a orugant, ac eisted a wnaethant ual hynn -- y
18 urenhines o'r neill parth idaw ef, a'r iarll, deby-<ms. p. 6>gei ef,
19 o'r parth arall. A dechreu ymdidan a wnaeth ef a'r
20 urenhines. Ac o'r a welsei eiryoet wrth ymdidan a hi,
21 dissymlaf gwreic a bonedigeidaf i hannwyt a'y hymdidan
22 oed. A threulaw a wnaethant bwyt a llynn a cherdeu a
23 chyuedach. O'r a welsei o holl lyssoed y dayar, llyna
24 y llys diwallaf o uwyt a llynn, ac eur lestri, a theyrn
25 dlysseu.
26 Amser a doeth udunt e uynet e gyscu, ac y gysgu
27 yd aethant, ef a'r urenhines. Y gyt ac yd aethant yn
28 guely ymchwelut e weneb at yr erchwyn a oruc ef, a'y
1 geuyn attei hitheu. O hynny hyt trannoeth, ny dywot
2 ef wrthi hi un geir. Trannoeth, tirionwch ac ymdidan
3 hygar a uu y ryngthunt. Peth bynnac o garueidrwyd a
4 wei y rungthunt y dyd, ni bu unnos hyt ym pen y
5 ulwydyn amgen noc a uu y nos gyntaf.
6 Treulaw y ulwydyn a wnaeth trwy hela, a cherdeu,
7 a chyuedach, a charueidrwyd, ac ymdidan a chedymdeithon,
8 hyt y nos yd oet y gyfranc. Yn oet y nos
9 <ms. p. 7>honno, kystal y doi y gof y'r dyn eithaf yn yr holl
10 gyuoeth yr oet [ac idaw ynteu]. Ac ynteu a doeth i'r
11 oet, a guyrda y gyuoeth y gyt ac ef. Ac y gyt ac y
12 doeth i'r ryt, marchawc a gyuodes y uynyd, ac a dywot
13 wal hynn, "A wyrda," heb ef, "ymwerendewch yn da.
14 Y rwng y deu wrenhin y mae yr oet hwnn, a hynny y
15 rwng y deu gorff wylldeu. A fob un o honunt yssyd
16 hawlwr ar y gilyd, a hynny am dir a dayar. A ssegur
17 y digaun pawb o honawch uot, eithyr gadu y ryngthunt
18 wylldeu."
19 Ac ar hynny y deu urenhin a nessayssant y gyt am
20 perued y ryt e ymgyuaruot. Ac ar y gossot kyntaf, y
21 gwr a oed yn lle Arawn, a ossodes ar Hafgan ym perued
22 bogel y daryan yny hyllt yn deu hanner, ac yny dyrr yr
23 arueu oll, ac yny uyd Hafgan hyt y ureich a'e paladyr
24 dros pedrein y uarch y'r llawr, ac angheuawl dyrnawt
25 yndaw ynteu. "A unben," heb yr Hafgan, "pa dylyet
26 a oed iti ar uy angheu<ms. p. 8>i? Nit yttoydwn i yn holi dim
27 i ti. Ni wydwn achos it heuyt y'm llad i: ac yr Duw,"
28 heb ef, "canys dechreueist uy llad, gorffen." "A
1 unbenn," heb ynteu, "ef a eill uot yn ediuar gennyf
2 gwneuthur a wneuthum itt. Keis a'th lado; ni ladaf i
3 di." "Vy ngwyrda kywir," heb yr Hafgan, "dygwch ui
4 odyma: neut teruynedic angheu y mi. Nit oes ansawd
5 y mi y'ch kynnal chwi bellach." "Vy ngwy[r]da
6 innheu," heb y gwr a oed yn lle Arawn, "kymerwch ych
7 kyuarwyd, a gwybydwch pwy a dylyo bot yn wyr ymi."
8 "Arglwyd," heb y gwyrda, "pawb a'y dyly, canyt oes
9 urenhin ar holl Annwuyn namyn ti." "Ie," heb ynteu,
10 "a del yn waredauc, iawn yw [y] gymryt. Ar ny del yn
11 uuyd, kymmeller o nerth cledyueu." Ac ar hynny,
12 kymryt gwrogaeth y gwyr a dechreu guereskynn y wlat.
13 Ac erbyn hanner dyd drannoeth, yd oed yn y uedyant
14 y dwy dyrnas.
15 Ac ar hynny, ef a gerdwys parth a'y gynnadyl, ac a
16 doeth y Lynn Cuch. A phan doeth yno, yd oed<ms. p. 9>
17 Arawn urenhin Annwuyn yn y erbyn. Llawen uu pob
18 un wrth y gilid o honunt. "Ie," heb yr Arawn, "Duw
19 a dalo itt dy gydymdeithas; mi a'y kygleu." "Ie,"
20 heb ynteu, "pan delych dy hun i'th wlat, ti a wely a
21 wneuthum i yrot ti." "A wnaethost," heb ef, "yrof i,
22 Duw a'y talo itt."
23 Yna y rodes Arawn y furuf, a'y drych e hun y Pwyll,
24 Pendeuic Dyuet, ac y kymerth ynteu y furuf e hun a'y
25 drych. Ac y kerdaud Arawn racdaw parth a'y lys y
26 Annwuyn, ac y bu digrif ganthaw ymw[e]let a'y eniuer
27 ac a'y deulu, canis rywelsei ef [wy ys blwydyn].
28 Wynteu hagen ni wybuyssynt i eisseu ef, ac ni bu
1 newydach ganthunt y dyuodyat no chynt. Y dyd
2 hwnnw a dreulwys trwy digrifwch a llywenyd, ac eisted
3 ac ymdidan a'y wreic ac a'y wyrda. A phan uu amserach
4 kymryt hun no chyuedach, y gyscu yd aethant. Y vely
5 a gyrchwys, a'y vreic a aeth attaw. Kyntaf y gwnaeth
6 ef ymdidan a'y [wreic], ac ymyrru ar digriwwch serchawl
7 a charyat arnei. A hynny<ms. p. 10>ny ordifnassei hi
8 ys blwydyn, a hynny a uedylywys hi. "Oy a Duw," heb
9 hi, "pa amgen uedwl yssyd yndaw ef heno noc ar a uu yr
10 blwydyn y heno?" A medylyaw a wnaeth yn hir. A
11 guedy y medwl hwnnw, duhunaw a wnaeth ef, a farabyl
12 a dywot ef wrthi hi, a'r eil, a'r trydyt; ac attep ny chauas
13 ef genthi hi yn hynny. "Pa achaws," heb ynteu, "na
14 dywedy di wrthyf i?" "Dywedaf wrthyt," heb hi,
15 "na dywedeis ys blwydyn y gymmeint yn y kyfryw le a
16 hwnn." "Paham?" heb ef. "Ys glut a beth yd
17 ymdidanyssam ni." "Meuyl im," heb hi, "yr blwydyn
18 y neithwyr o'r pan elem yn nyblyc yn dillat guely, na
19 digrifwch, nac ymdidan, nac ymchwelut ohonot dy
20 wyneb attaf i, yn chwaethach a uei uwy no hynny o'r bu
21 y rom ni." Ac yna y medylywys ef, "Oy a Arglwyd
22 Duw," heb ef, "cadarn a ungwr y gydymdeithas, a
23 diffleeis, a geueis i yn gedymdeith." Ac yna y dywot ef
24 wrth y wreic, "Arglwydes," heb ef, "na chapla di uiui.
25 Y rof i a Duw," heb<ms. p. 11>ynteu, "ni chyskeis inheu gyt
26 a thi, yr blwydyn y neithwyr, ac ni orwedeis." Ac yna
27 menegi y holl gyfranc a wnaeth idi. "I Duw y dygaf
28 uy nghyffes," heb hitheu, "gauael gadarn a geueist ar
29 gedymdeith yn herwyd ymlad a frouedigaeth y gorff, a
1 chadw kywirdeb wrthyt titheu." "Arglwydes," heb ef,
2 "sef ar y medwl hwnnw yd oedwn inheu, tra deweis
3 wrthyt ti." "Diryued oed hynny," heb hitheu.
4 Ynteu Pwyll, Pendeuic Dyuet, a doeth y gyuoeth ac
5 y wlat. A dechreu ymouyn a gwyrda y wlat, beth a
6 uuassei y arglwydiaeth ef arnunt hwy y ulwydyn honno
7 y wrth ryuuassei kynn no hynny. "Arglwyd," heb wy,
8 "ny bu gystal dy wybot; ny buost gyn hygaret guas
9 ditheu; ny bu gyn hawsset gennyt titheu treulaw dy da;
10 ny bu well dy dosparth eiroet no'r ulwydyn honn."
11 "Y rof i a Duw," heb ynteu, "ys iawn a beth iwch chwi,
12 diolwch y'r gwr a uu y gyt a chwi, a llyna y gyfranc ual
13 y bu"-- a'e<ms. p. 12>datkanu oll o Pwyll. "Ie, Arglwyd,"
14 heb wy, "diolwch y Duw caffael o honot y gydymdeithas
15 honno; a'r arglwydiaeth a gaussam ninheu y ulwydyn
16 honno, nys attygy y gennym, ot gwnn." "Nac attygaf,
17 y rof i a Duw," heb ynteu Pwyll.
18 Ac o hynny allan, dechreu cadarnhau kedymdeithas
19 y ryngthunt, ac anuon o pop un y gilid meirch a milgwn
20 a hebogeu a fob gyfryw dlws, o'r a debygei bob un
21 digrifhau medwl y gilid o honaw. Ac o achaws i drigiant
22 ef y ulwydyn honno yn Annwuyn, a gwledychu o honaw
23 yno mor lwydannus, a dwyn y dwy dyrnas yn un drwy y
24 dewred ef a'y uilwraeth, y diffygywys y enw ef ar Pwyll,
25 Pendeuic Dyuet, ac y gelwit Pwyll Penn Annwuyn o
26 hynny allan.
27 A threigylgueith yd oed yn Arberth, priflys idaw, a
1 gwled darparedic idaw, ac yniueroed mawr o wyr y gyt
2 ac ef. A guedy y bwyta kyntaf, kyuodi y orymdeith a
3 oruc Pwyll, a chyrchu penn gorssed a oed uch llaw y
4 llys, a elwit Gorssed Arberth. "Arglwyd." heb<ms. p. 13>un
5 o'r Ilys, "kynnedyf yr orssed yw, pa dylyedauc bynnac
6 a eistedo arnei, nat a odyno heb un o'r deupeth, ay
7 kymriw neu archolleu, neu ynteu a welei rywedawt."
8 "Nyt oes arnaf i ouyn cael kymriw, neu archolleu, ym
9 plith hynn o niuer. Ryuedawt hagen da oed gennyf
10 pei ys guelwn. Mi a af," heb ynteu, "y'r orssed y
11 eisted." Eisted a wnaeth
12 bydynt yn eisted, wynt a welynt gwreic ar uarch canwelw
13 mawr aruchel, a gwisc eureit, llathreit, o bali amdanei,
14 yn dyuot ar hyt y prifford a gerdei heb law yr orssed.
15 Kerdet araf, guastat oed gan y march ar uryt y neb a'y
16 guelei, ac yn dyuot y ogyuuch a'r orssed. "A wyr," heb
17 y Pwyll, "a oes ohonawchi, a adnappo y uarchoges?"
18 "Nac oes, Arglwyd," heb wynt. "Aet un," heb ynteu,
19 "yn y herbyn y wybot pwy yw." Un a gyuodes y
20 uynyd, a phan doeth yn y herbyn y'r ford, neut athoed
21 hi heibaw. Y hymlit a wnaeth ual y gallet gyntaf o
22 pedestric. A fei mwyaf
23 e wrthaw ef. A phan welas<ms. p. 14>na thygyei idaw y
24 hymlit, ymchwelut a oruc at Pwyll a dywedut wrthaw,
25 "Arglwyd," heb ef, "ni thykya y pedestric yn y byt e
26 hymlit hi." "Ie," heb ynteu Pwyll, "dos y'r llys, a
27 chymer y march kyntaf a wypych, a dos ragot yn y hol."
1 Y march a gymerth, ac racdaw yd aeth; y maestir
2 guastat a gauas, ac ef a dangosses yr ysparduneu y'r
3 march. A ffei uwyaf y lladei ef y march, pellaf uydei
4 hitheu e wrthaw ef. Yr vn gerdet a dechreuyssei hitheu,
5 yd oed arnaw. Y uarch ef a ballwys; a phan wybu ef ar
6 y uarch pallu y bedestric, ymchwelut yn yd oed Pwyll a
7 wnaeth. "Arglwyd," heb ef, "ny thykya y neb ymlit
8 yr unbennes racco. Ny wydwn i varch gynt yn y
9 kyuoyth no hwnnw, ac ni thygyei ymi y hymlit hi."
10 "Ie," heb ynteu Pwyll, "y mae yno ryw ystyr hut.
11 Awn parth a'r llys." Y'r llys y doethant, a threulau y
12 dyd hwnnw a wnaethant.
13 A thrannoeth, kyuodi e uynyd a wnaethant, a
14 threulaw hwnnw yny oed amser<ms. p. 15>mynet y uwyta. A
15 gwedy y bwyta kyntaf, "Ie," heb ynteu Pwyll, "ni a
16 awn yr yniuer y buam doe, y penn yr orssed. A thidy,"
17 heb ef, wrth vn o'y uakwyueit, "dwg gennyt y march
18 kyntaf a wypych yn y mays." A hynny a wnaeth y
19 makwyf. Yr orssed a gyrchyssant, a'r march ganthunt.
20 Ac val y bydynt yn eiste, wynt a welynt y wreic ar
21 yr vn march, a'r vn wisc amdanei, yn dyuot yr un ford.
22 "Llyma," heb y Pwyll, "y uarchoges doe. Bid parawt,"
23 heb ef, "was, e wybot pwy yw hi." "Arglwyd," heb
24 ef, "mi a wnaf hynny yn llawen." Ar hynny, y uarchoges
25 a doeth gywerbyn ac wynt. Sef a oruc y makwyf yna,
26 yskynnu ar y march, a chynn daruot idaw ymgueiraw
27 yn y gyfrwy neu ry adoed hi heibaw, a chynnwll y
28 rygthunt. Amgen urys gerdet nit oed genthi hi no'r dyd
29 gynt. Ynteu a gymerth rygyng y gan y uarch, ac ef a
1 dybygei yr araued y kerdei y uarch yr ymordiwedei a
2 hi. A hynny ny thy-<ms. p. 16>gywys idaw. Ellwg y uarch a
3 oruc wrth auwyneu; nyt oed nes idi yna no chyt
4 y gam; a phei wyaf y lladei ef y uarch, pellaf uydei
5 hitheu e wrthaw ef: y cherdet hitheu nit oed uwy no
6 chynt. Cany welas ef tygyaw idaw e hymlit ymchwelut
7 a wnaeth
8 ef, "nyt oes
9 "Mi a weleis," heb ynteu, "ny thykya y neb y herlit hi.
10 Ac y rof i a Duw," heb ef, "yd oed neges idi wrth rei o'r
11 maes hwnn pei gattei wrthpwythi idi y dywedut; a ni
12 a awn parth a'r llys."
13 Y'r llys y doethant, a threulaw y nos honno a
14 orugant drwy gerdeu a chyuedach, ual y bu llonyd
15 ganthunt. A thrannoeth diuyrru y dyd a wnaethant yny
16 oed amser mynet y wwyta. A phan daruu udunt y bwyd
17 Pwyll a dywot, "Mae yr yniuer y buom ni doe ac echtoe
18 ym penn yr orssed?" "Llymma, Arglwyd," heb wynt.
19 "Awn," heb ef, "y'r orssed y eiste, a thitheu," heb ef,
20 wrth was y uarch, "kyfrwya<ms. p. 17>uy march yn da, a
21 dabre ac ef y'r ford, a dwc uy ysparduneu gennyt." Y
22 gwas a wnaeth hynny.
23 Dyuot yr orssed a orugant y eisted. Ny buant
24 hayach o enkyt yno, yny welynt y uarchoges yn dyuot
25 yr vn ford, ac yn un ansawd, ac vn gerdet. "Ha was,"
26 heb y Pwyll, "mi a welaf y uarchoges. Moes uy march."
27 Yskynnu a oruc Pwyll ar y uarch, ac nyt kynt yd yskynn
1 ef ar y uarch, noc yd a hitheu hebdaw ef. Troi yn y
2 hol a oruc ef, a gadel y uarch drythyll, llamsachus y
3 gerdet. Ac ef a debygei, ar yr eil neit, neu ar y trydyd,
4 y gordiwedei. Nyt oed nes hagen idi no chynt. Y uarch
5 a gymhellaud o'r kerdet mwyaf a oed ganthaw. A
6 guelet a wnaeth na thygyei idaw y hymlit.
7 Yna y dywot Pwyll. "A uorwyn," heb ef, "yr
8 mwyn y gwr mwyhaf a gery, arho ui." "Arhoaf yn
9 llawen," heb hi, "ac oed llessach y'r march, pei ass
10 archut yr meityn." Sewyll, ac arhos a oruc y uorwyn, a
11 gwaret y rann a dylyei uot am y hwyneb o wisc y phenn,
12 ac attal y golwc arnaw, a dechreu ymdidan ac ef.<ms. p. 18>
13 "Arglwydes," heb ef, "pan doy di, a pha gerdet yssyd
14 arnat ti?" "Kerdet wrth uy negesseu," heb hi, "a da
15 yw gennyf dy welet ti." "Crassaw wrthyt y gennyf i,"
16 heb ef. Ac yna medylyaw a wnaeth, bot yn diuwyn
17 ganthaw pryt a welsei o uorwyn eiroet, a gwreic, y wrth y
18 ffryt hi. "Arglwydes," heb ef, "a dywedy di ymi dim
19 o'th negesseu?" "Dywedaf, y rof a Duw," heb hi.
20 "Pennaf neges uu ymi, keissaw dy welet ti." "Llyna,"
21 heb y Pwyll,
22 a dywedy di ymi pwy wyt?" "Dywedaf, Arglwyd,"
23 heb hi. "Riannon, uerch Heueyd Hen, wyf i, a'm rodi
24 y wr o'm hanwod yd ydys. Ac ny mynneis innheu un
25 gwr, a hynny o'th garyat ti. Ac nys mynnaf etwa, onyt
26 ti a'm gwrthyt. Ac e wybot dy attep di am hynny e
27 deuthum i." "Rof i a Duw," heb ynteu Pwyll, "llyna
1 uy attep i iti, pei caffwn dewis ar holl wraged a
2 morynnyon y byt, y mae ti a dewisswn." "Ie," heb
3 hitheu, "os hynny a uynny, kyn uy rodi y wr arall,
4 gwna<ms. p. 19>oed a mi." "Goreu yw gennyf i," heb y
5 Pwyll, "bo kyntaf; ac yn y lle y mynnych ti, gwna yr
6 oet." "Gwnaf, Arglwyd," heb hi, "blwydyn y heno,
7 yn llys Heueyd, mi a baraf bot gwled darparedic yn
8 barawt erbyn dy dyuot." "Yn llawen," heb ynteu, "a
9 mi a uydaf yn yr oet hwnnw." "Arglwyd," heb hi,
10 "tric yn iach, a choffa gywiraw dy edewit, ac e ymdeith
11 yd af i."
12 A guahanu a wnaethont, a chyrchu a wnaeth ef
13 parth a'e teulu a'e niuer. Pa ymouyn bynnac a uei
14 ganthunt wy y wrth y uorwyn, y chwedleu ereill y trossei
15 ynteu. Odyna treulaw y ulwydyn hyt yr amser a
16 wnaethont; ac ymgueiraw [o Pwyll] ar y ganuet
17 marchauc. Ef a aeth ryngtaw a llys Eueyd Hen, ac ef
18 a doeth y'r llys, a llawen uuwyt wrthaw, a dygyuor a
19 llewenyd ac arlwy mawr a oed yn y erbyn, a holl uaranned
20 y llys wrth y gynghor ef y treulwyt. Kyweiryaw y
21 neuad a wnaethpwyt, ac y'r bordeu yd aethant. Sef
22 ual yd eistedyssont, Heueyd Hen ar neill law Pwyll, a
23 Riannon o'r parth arall idaw; y am hynny<ms. p. 20>pawb
24 ual y bei y enryded. Bwyta a chyuedach ac ymdidan a
25 wnaethont.
26 Ac ar dechreu kyuedach gwedy bwyt, wynt a
27 welynt yn dyuot y mywn, guas gwineu, mawr, teyrneid,
28 a guisc o bali amdanaw. A phan doeth y gynted y
29 neuad, kyuarch guell a oruc y Pwyll a'y gedymdeithon.
1 "Cressaw Duw wrthyt, eneit, a dos y eisted," heb y
2 Pwyll. "Nac af," heb ef, "eirchat wyf, a'm neges a
3 wnaf." "Gwna yn llawen," heb y Pwyll. "Arglwyd,"
4 heb ef, "wrthyt ti y mae uy neges i, ac y erchi it y
5 dodwyf." "Pa arch bynnac a erchych di ymi, hyt y
6 gallwyf y gaffael, itti y byd." "Och !" heb y Riannon,
7 "paham y rody di attep yuelly?" "Neus rodes y
8 uelly, Arglwydes, yg gwyd gwyrda," heb ef. "Eneit,"
9 heb y Pwyll, "beth yw dy arch di?" "Y wreic uwyaf
10 a garaf yd wyt yn kyscu heno genthi. Ac y herchi hi
11 a'r arlwy a'r darmerth yssyd ymma y dodwyf i."
12 Kynhewi a oruc Pwyll, cany bu attep a rodassei.
13 "Taw, hyt y mynnych," heb y Riannon, "ny bu
14 uuscrellach gwr ar y ssynnwyr e hun nog ry uuost ti."
15 "Arglwydes," heb ef, "ny wydwn i pwy oed ef."
16 "Llyna y gwr y mynyssit uy rodi i idaw o'm hanuod,"
17 heb hi, "Guawl uab Clut, gwr tormyn-<ms. p. 21>
18 nawc, kyuoethawc. A chan derw yt dywedut y geir a dywedeist,
19 dyro ui idaw rac anglot yt." "Arglwydes," heb ef, "ny
20 wnn i pa ryw attep yw hwnnw. Ny allaf ui arnaf a
21 dywedy di uyth." "Dyro di ui idaw ef," heb hi, "a mi
22 a wnaf na chaffo ef uiui uyth." "Pa furyf uyd hynny?"
23 heb y Pwyll. "Mi a rodaf i'th law got uechan," heb hi,
24 "a chadw honno gennyt yn da. Ac ef a eirch y wled a'r
25 arlwy a'r darmerth. Ac nit oes y'th uedyant di hynny.
26 A mi ui a rodaf y wled y'r teulu a'r niueroed," heb hi,
27 "a hwnnw uyd dy attep am hynny. Amdanaf innheu,"
28 heb hi, "mi a wnaf oet ac ef, ulwydyn y heno, y gyscu
29 gennyf; ac ym penn y ulwydyn," heb hi, "byd ditheu
1 a'r got honn genhyt, ar dy ganuet marchawc yn y perllan
2 uchot. A phan uo ef ar perued y digrifwch a'y gyuedach,
3 dyret titheu dy hun ymywn a dillat reudus amdanat, a'r
4 got y'th law," heb hi, "ac nac arch dim namyn lloneit y
5 got o uwyt. Minheu," heb hi, "a baraf, bei dottit yssyd
6 yn y seith cantref hynn o uwyt a llynn yndi, na bydei
7 launach no chynt. A guedy byryer llawer yndi, ef a
8 ouyn yt, ʽA uyd llawn dy got ti uyth?' Dywet titheu,
9 ʽNa<ms. p. 22>uyd, ony chyuyt dylyedauc tra chyuoethauc, a
10 guascu a'y deudroet y bwyt yn y got, a dywedut,
11 ʽDigawn rydodet ymman.' A minheu a baraf idaw ef
12 uynet y sseghi y bwyt yn y got. A phan el ef, tro ditheu
13 y got, yny el ef dros y pen yn y got. Ac yna llad glwm
14 ar garryeu y got. A bit corn canu da am dy uynwgyl, a
15 phan uo ef yn rwymedic yn y got, dot titheu lef ar dy
16 gorn, a bit hynny yn arwyd y rot a'th uarchogyon; pan
17 glywhont llef dy gorn, diskynnent wynteu am ben y llys."
18 "Arglwyd," heb y Guawl, "madws oed ymi cael
19 attep am a ercheis." "Kymeint ac a ercheist," heb y
20 Pwyll, "o'r a uo y'm medyant i, ti a'y keffy." "Eneit,"
21 heb hitheu Riannon, "am y wled a'r darpar yssyd yma,
22 hwnnw a rodeis i y wyr Dyuet ac y'r teulu, a'r yniueroed
23 yssyd ymma. Hwnnw nit eidawaf y rodi y neb.
24 Blwydyn y heno ynteu, y byd gwled darparedic yn y
25 llys honn i titheu, eneit, y gyscu gennyf innheu."
26 Gwawl a gerdawd ryngthaw a'y gyuoeth. Pwyll
27 ynteu a doeth y Dyuet. A'r ulwydyn honno a dreulwys
28 pawb o honunt hyt oet y wled a oed yn llys<ms. p. 23>Eueyd
1 Hen. Gwaul uab Clut a doeth parth a'r wled a oed
2 darparedic idaw, a chyrchu y llys a wnaeth, a llawen
3 uuwyt wrthaw. Pwyll ynteu Penn Annwn a doeth y'r
4 berllan ar y ganuet marchauc, ual y gorchymynnassei
5 Riannon idaw, a'r got ganthaw. Gwiscaw bratteu trwm
6 ymdan[a]w a oruc Pwyll, a chymryt lloppaneu mawr am
7 y draet. A phan wybu y bot ar dechreu kyuedach wedy
8 bwyta, dyuot racdaw y'r neuad; a guedy y dyuot y
9 gynted y neuad kyuarch guell a wnaeth y Wawl uab Clut
10 a'y gedymdeithon o wyr a gwraged. "Duw a ro da yt,"
11 heb y Gwawl, "a chraessaw Duw wrthyt." "Arglwyd,"
12 heb ynteu, "Duw a dalo yt. Negessawl wyf wrthyt."
13 "Craessaw wrth dy neges," heb ef. "Ac os arch
14 gyuartal a erchy ymi, yn llawen ti a'e keffy." "Kyuartal,
15 Arglwyd," heb ynteu, "nyt archaf onyt rac eisseu. Sef
16 arch a archaf, lloneit y got uechan a wely di o uwyt."
17 "Arch didraha yw honno," heb ef, "a thi a'y keffy yn
18 llawen. Dygwch uwyt idaw," heb ef. Riuedi mawr o
19 sswydwyr a gyuodassant y uynyd, a dechreu llenwi y
20 got. Ac yr a uyrit yndi ny bydei lawnach no chynt.
21 "Eneit,"<ms. p. 24>heb y Guawl, "a uyd llawn dy got ti
22 uyth?" "Na uyd, y rof a Duw," heb ef, "yr a dotter
23 yndi uyth, ony chyuyt dylyedauc tir a dayar a chyuoeth,
24 a ssenghi a'y deudroet y bwyt yn y got a dywedut,
25 'Digawn ry dodet yma'" "A geimat," heb y Riannon,
26 "kyuot y uynyd ar uyrr," wrth Gwawl vab Clut.
27 "Kyuodaf yn llawen," heb ef. A chyuodi y uynyd, a
28 dodi y deudroet yn y got, a troi o Pwyll y got yny uyd
29 Guawl dros y penn yn y got ac yn gyflym caeu y got, a
1 llad clwm ar y carryeu, a dodi llef ar y gorn. Ac ar
2 hynny,
3 pawb o'r niuer a doeth y gyt a Guawl, a'y dodi yn y
4 carchar e hun. A bwrw y bratteu a'r loppaneu a'r
5 yspeil didestyl y amdanaw a oruc Pwyll.
6 Ac mal y delei pob un o'e niuer ynteu y mywn, y
7 trawei pob un dyrnawt ar y got, ac y gouynnei, "Beth
8 yssyd ymma?" "Broch," medynt wynteu. Sef
9 kyfryw chware a wneynt, taraw a wnai pob un dyrnawt
10 ar y got, ae a'e droet ae a throssawl; ac yuelly guare a'r
11 got a wnaethont. Pawb ual y delei, a ouynnei, "Pa
12 chware a wnewch chwi uelly?" "Guare broch yg
13 got," medynt wynteu. Ac yna gyntaf y guarywyt broch
14 yggot.
15 "Arglwyd," heb y gwr o'r got, "pei guarandawut
16 uiui, nyt oed dihenyd arnaf uy llad y mywn got."
17 "Arglwyd,"<ms. p. 25>heb Eueyd
18 Iawn yw yt y warandaw; nyt dihenyt arnaw hynny."
19 "Ie," heb y Pwyll, "mi a wnaf dy gynghor di amdanaw
20 ef." "Llyna dy gynghor di," heb Riannon yna. "Yd
21 wyt yn y lle y perthyn arnat llonydu eircheit a cherdoryon.
22 Gat yno ef y rodi drossot y pawb," heb hi, "a
23 chymer gedernit y ganthaw na bo ammouyn na dial uyth
24 amdanaw, a digawn yw hynny o gosp arnaw." "Ef a
25 geif hynny yn llawen," heb y gwr o'r got. "A minheu
26 a'e kymmeraf yn llawen," heb y Pwyll, "gan gynghor
27 Heueyd a Riannon." "Kynghor yw hynny gynnym
28 ni," heb wynt. "Y gymryt a wnaf," heb y Pwyll.
1 "Keis ueicheu drossot." "Ni a uydwn drostaw," heb
2 Heueyd, "yny uo ryd y wyr y uynet drostaw." Ac ar
3 hynny y gollyngwyt ef o'r got ac y rydhawyt y oreugwyr.
4 "Gouyn ueithon y Wawl weicheu," heb yr Heueyd.
5 "Ni a adwaenwn y neb a dylyer y kymryt y ganthaw."
6 Riuaw y meicheu a wnaeth Heueyd. "Llunnya dy
7 hunn," heb y Guawl, "dy ammot." "Digawn yw
8 gennyf i," heb y Pwyll, "ual y llunnyawd Riannon."
9 Y meicheu a aeth ar yr ammot hwnnw. "Ie, Arglwyd,"
10 heb y Guawl,"briwedic wyf i, a chymriw mawr a geueis,
11 ac ennein yssyd reit ymi, ac y ymdeith yd af i, gan<ms. p. 26>dy
12 gannyat ti. A mi a adawaf wyrda drossof yma, y attep
13 y pawb o'r a'th ouynno di." "Yn llawen," heb y Pwyll,
14 "a gwna ditheu hynny." Guawl a aeth parth a'y gyuoeth.
15 Y neuad ynteu a gyweirwyt y Pwyll a'e niuer, ac
16 yniuer y llys y am hynny. Ac y'r bordeu yd aethont y
17 eisted, ac ual yd eistedyssant ulwydyn o'r nos honno, yd
18 eistedwys paub y nos [honno]. Bwyta a chyuedach a
19 wnaethont, ac amser a doeth y uynet y gyscu. Ac y'r
20 ystauell yd aeth Pwyll a Riannon, a threulaw y nos
21 honno drwy digriuwch a llonydwch.
22 A thrannoeth, yn ieuengtit y dyd, "Arglwyd," heb
23 Riannon, "kyuot y uynyd, a dechreu lonydu y kerdoryon,
24 ac na ommed neb hediw, o'r a uynno da."
25 "Hynny a wnaf i, yn llawen." heb y Pwyll, "a hediw a
26 pheunyd tra parhao y wled honn." Ef a gyuodes Pwyll
27 y uynyd, a pheri dodi gostec, y erchi y holl eircheit a
28 cherdoryon dangos, a menegi udunt y llonydit pawb o
1 honunt wrth y uod a'y uympwy; a hynny a
2 wnaethpwyd. Y wled honno a dreulwyt, ac ny
3 ommedwyt neb tra barhaud. A phan daruu y wled,
4 "Arglwyd," heb y Pwyll wrth Heueyd. "mi a gychwynnaf,
5 gan dy gannyat, parth a Dyuet<ms. p. 27>auore."
6 "Ie," heb Heueyd, "Duw a rwydhao ragot; a gwna
7 oet a chyfnot y del Riannon i'th ol." "Y rof i a Duw,"
8 heb ynteu Pwyll, "y gyt y kerdwn odymma." "Ay
9 uelly y mynny di, Arglwyd?" heb yr Heueyd.
10 "Uelly, y rof a Duw," heb y Pwyll.
11 Wynt a gerdassant trannoeth parth a Dyuet, a Llys
12 Arberth a gyrchyssant, a gwled darparedic oed yno
13 udunt. Dygyuor y wlat a'r kyuoeth a doeth attunt o'r
14 gwyr goreu a'r gwraged goreu. Na gwr na gwreic o
15 hynny nyt edewis Riannon, heb rodi rod enwauc idaw,
16 ae o gae, ae o uodrwy, ae o uaen guerthuawr. Gwledychu
17 y wlat a wnaethont yn llwydannus y ulwydyn honno, a'r
18 eil. Ac yn [y] dryded ulwydyn, y dechreuis gwyr y wlat
19 dala trymuryt yndunt, o welet gwr kymeint a gerynt a'e
20 harglwyd ac eu brawduaeth, yn dietiued; a'e dyuynnu
21 attunt a wnaethont. Sef lle y doethont y gyt, y Bresseleu
22 yn Dyuet. "Arglwyd," heb wynt, "ni a wdom na bydy
23 gyuoet ti a rei o wyr y wlat honn, ac yn ouyn ni yw, na
24 byd it etiued o'r wreic yssyd gennyt. Ac wrth hynny,
25 kymmer wreic arall y bo ettiued yt ohonei. Nyt byth,"
26 <ms. p. 28>heb wynt, "y perhey di, a chyt kerych di uot yuelly,
27 nys diodefwn y gennyt." "Ie," heb y Pwyll, "nyt hir
28 ettwa yd ym y gyt, a llawer damwein a digawn bot.
29 Oedwch a mi hynn hyt ym pen y ulwydyn; a blwydyn
1 y'r amser hwnn, ni a wnawn yr oet y dyuot y gyt, ac wrth
2 ych kynghor y bydaf." Yr oet a wnaethant. Kynn
3 dyuot cwbyl o'r oet, mab a anet idaw ef, ac yn Arberth y
4 ganet. A'r nos y ganet, y ducpwyt gwraged y wylat y
5 mab a'y uam. Sef a wnaeth y gwraged kyscu, a mam y
6 mab, Riannon. Sef riuedi o wraged a ducpwyt y'r
7 ystauell hwech wraged. Gwylat a wnaethont wynteu
8 dalym o'r nos, ac yn hynny eisswys, kyn hanner noss,
9 kyscu a wnaeth pawb ohonunt, a thu a'r pylgeint deffroi.
10 A phan deffroyssant, edrych a orugant y lle y dodyssynt
11 y mab, ac nyt oed dim ohonaw yno. "Och !" heb vn o'r
12 gwraged, "neur golles y mab." "Ie," heb arall,
13 "bychan a dial oed yn lloski ni, neu yn dienydyaw am y
14 mab." "A oes," heb un o'r guraged, "kynghor o'r byt
15 am hynn?" "Oes," heb arall, "mi a wnn gynghor da,"
16 heb hi. "Beth yw hynny?" heb wy. "Gellast yssyd
17 yma," heb hi, "a chanawon genti. Lladwn rei o'r
18 canawon, ac irwn y hwyneb hitheu Riannon<ms. p. 29>a'r
19 gwaet, a'y dwylaw, a byrwn yr eskym gyr y bron, a
20 thaerwn arnei e hun diuetha y mab. Ac ni byd yn taered
21 ni an chwech wrthi hi e hun." Ac ar y kynghor hwnnw
22 y trigwyt.
23 Parth a'r dyd Riannon a deffroes, ac a dywot, "A
24 wraged," heb hi, "mae y mab?" "Arglwydes," heb
25 wy, "na ouyn di yni y mab. Nyt oes ohonam ni namyn
26 cleisseu a dyrnodeu yn ymdaraw a thi; a diamheu yw
27 gennym na welsam eiroet uilwraeth yn un wreic kymeint
28 ac ynot ti. Ac ny thygyawd ynni ymdaraw a thi. Neur
29 diffetheeist du hun dy uab, ac na hawl ef ynni." "A
1 druein," heb y Riannon, "yr yr Arglwyd Duw a wyr
2 pob peth, na yrrwch geu arnaf. Duw, a wyr pob peth, a
3 wyr bot yn eu hynny arnaf i. Ac os ouyn yssyd
4 arnawchi, ym kyffes y Duw, mi a'ch differaf." "Dioer,"
5 heb wy, "ny adwn ni drwc arnam ny hunein yr dyn yn y
6 byt." "A druein," heb hitheu, "ny chewch un drwc yr
7 dywedut y wirioned." Yr a dywettei hi yn dec ac yn
8 druan, ny chaffei namyn yr un atteb gan y gwraged.
9 Pwyll Penn Annwn ar hynny a gyuodes, a'r teulu
10 a'r yniueroed, a chelu y damwein hwnnw ny allwyt.
11 Y'r wlat yd aeth y chwedyl, a phawb o'r guyrda a'e
12 kigleu. A'r guyrda a doethant y gyt y<ms. p. 30>wneuthur
13 kynnadeu at Pwyll, y erchi idaw yscar a'e wreic, am
14 gyflauan mor anwedus ac ar y wnaethoed. Sef attep a
15 rodes Pwyll, "Nyt oed achaws ganthunt wy y erchi y
16 mi yscar a'm gwreic namyn na bydei plant idi. Plant a
17 wnn i y uot idi hi. Ac nyt yscaraf a hi. O gwnaeth
18 hitheu gam, kymeret y phenyt amdanaw." Hitheu
19 Riannon a dyuynnwys attei athrawon a doethon. A
20 gwedy bot yn degach genthi kymryt y phenyt nog
21 ymdaeru a'r gwraged, y phenyt a gymerth. Sef penyt a
22 dodet erni, bot yn y llys honno yn Arberth hyt ym penn
23 y seith mlyned. Ac yskynuaen a oed odieithyr y porth,
24 eisted gyr llaw hwnnw beunyd, a dywedut y pawb a
25 delei o'r a debygei nas gwyppei, y gyffranc oll, ac o'r a
26 attei idi y dwyn, kynnic y westei a phellynic y dwyn ar
27 y cheuyn y'r llys. A damwein y gadei yr un y dwyn.
28 Ac yuelly treulaw talym o'r ulwydyn a wnaeth.
1 Ac yn yr amser hwnnw yd oed yn arglwyd ar Wynt
2 Ys Coet, Teirnon Twryf Uliant, a'r gwr goreu yn y byt
3 oed. Ac yn y ty yd oed cassec. Ac nyt oed yn y dyrnas,
4 na march<ms. p. 31>na chassec degach no hi; a phob nos
5 Calanmei y moei, ac ny wybydei neb un geir e wrth y
6 hebawl. Sef a wnaeth Teirnon, ymdidan nosweith a'y
7 wreic, "Ha wreic," heb ef, "llibin yd ym pob blwydyn
8 yn gadu heppil yn cassec, heb gaffel yr un o honunt."
9 "Peth a ellir wrth hynny?" heb hi. "Dial Duw arnaf,"
10 heb ef, "nos Calanmei yw heno, ony wybydaf i pa dileith
11 yssyd yn dwyn yr ebolyon." Peri dwyn y gassec y mywn
12 ty a wnaeth, a gwiscaw arueu amdanaw a oruc ynteu, a
13 dechreu gwylat y nos. Ac ual y byd dechreu noss, moi
14 y gassec ar ebawl mawr telediw, ac yn seuyll yn y lle.
15 Sef a wnaeth Teirnon, kyuodi ac edrych ar prafter yr
16 ebawl, ac ual y byd yuelly, ef a glywei twrwf mawr, ac
17 yn ol y twrwf, llyma grauanc uawr drwy fenestyr ar y ty,
18 ac yn ymauael a'r ebawl geir y uwng. Sef a wnaeth
19 ynteu Teirnon, tynnu cledyf, a tharaw y ureich o not yr
20 elin e ymdeith, ac yny uyd hynny o'r ureich a'r ebawl
21 ganthaw ef y mywn. Ac ar hynny twrwf, a diskyr a
22 gigleu y gyt. Agori y drws a oruc ef a dwyn ruthyr yn
23 ol y twrwf. Ny welei ef y twrwf rac tywyllet<ms. p. 32>y nos.
24 Ruthyr a duc yn y ol, a'y ymlit. A dyuot cof idaw adaw
25 y drws y agoret, ac ymhwelut a wnaeth. Ac wrth y
26 drws, llyma uab bychan yn y gorn, guedy troi llenn o
27 bali yn y gylch. Kymryt y mab a wnaeth attaw, a
28 llyma y mab yn gryf yn yr oet a oed arnaw.
1 Dodi cayat ar y drws a wnaeth, a chyrchu yr ystauell
2 yd oed y wreic yndi. "Arglwydes," heb ef, "ay kyscu
3 yd wyt ti?" "Nac ef, Arglwyd," heb hi. "Mi a
4 gyskeis, a phan doethost ti y mywn mi a deffroeis."
5 "Mae ymma mab it," heb ef, "os mynny, yr hwnn ny
6 bu yt eiroet." "Arglwyd," heb hi, "pa gyfranc uu
7 hynny?" "Llyma oll," heb y Teirnon, a menegi y
8 dadyl oll. "Ie, Arglwyd," heb hi, "pa ryw wisc yssyd
9 am y mab?" "Llen o bali," heb ynteu. "Mab y
10 dynnyon mwyn yw," heb hi. "Arglwyd," heb hi,
11 "digrifwch a didanwch oed gennyf i, bei mynnut ti, mi
12 a dygwn wraged yn un a mi, ac a dywedwn uy mot y
13 ueichawc." "Myui a duunaf a thi yn llawen," heb ef,
14 "am hynny." Ac yuelly y gwnaethpwyt. Peri a
15 wnaethont bedydyaw y mab, o'r bedyd a wneit yna.
16 Sef enw a dodet arnaw, Gwri Wallt Euryn. Yr hynn a
17 oed ar y ben o wallt, kyuelynet oed a'r eur.
18 Meithryn y mab a wnaethpwyt yn y<ms. p. 33>llys yny
19 oed ulwyd. A chynn y ulwyd yd oed yn kerdet yn gryf,
20 a breiscach oed no mab teir blwyd, a uei uawr y dwf a'e
21 ueint. A'r eil ulwydyn y magwyt y mab, a chyn ureisket
22 oed a mab chweblwyd. A chynn penn y pedwyryd
23 ulwydyn, yd oed yn ymoprau a gueisson y meirch, am y
24 adu o'e dwyn y'r dwuyr. "Arglwyd," heb y wreic wrth
25 Teirnon, "mae yr ebawl a differeist ti y noss y keueist
26 y mab?" "Mi a'e gorchymynneis y weisson y meirych,"
27 heb ef, "ac a ercheis synnyaw wrthaw." "Ponyt oed da
28 iti, Arglwyd," heb hi, "peri y hywedu, a'y rodi y'r mab?
1 Kanys y noss y keueist y mab y ganet yr ebawl ac y
2 differeist." "Nyt af i yn erbyn hynny," heb y Teirnon.
3 "Mi a adaf y ti y rodi idaw." "Arglwyd," heb hi,
4 "Duw a dalo yt, mi a'e rodaf idaw." Y rodet y march
5 y'r mab, ac y deuth hi at y guastrodyon, ac at weisson
6 y meirch, y orchymyn synyeit wrth y march, a'e uot yn
7 hywed erbyn pan elei y mab y uarchogaeth, a chwedyl
8 wrthaw.
9 Emysc hynny, wynt a glywssont chwedlydyaeth y
10 wrth Riannon, ac am y phoen. Sef a wnaeth Teirnon
11 Twryf Uliant, o achaws y douot a gawssei, ymwarandaw
12 am y chwedyl, ac amouyn yn<ms. p. 34>lut ymdanaw yny
13 gigleu gan lawer o luossogrwyd, o'r a delei y'r llys,
14 mynychu cwynaw truanet damwein Riannon, a'y phoen.
15 Sef a wnaeth Teirnon ynteu, medylyaw am hynny, ac
16 edrych ar y mab yn graf. A chael yn y uedwl, yn herwyd
17 gueledigaeth, na rywelsei eiroet mab a that kyn debycket
18 a'r mab y Pwyll Penn Annwn. Ansawd Pwyll hyspys
19 oed gantaw ef, canys gwr uuassei idaw kynn no hynny.
20 Ac yn ol hynny, goueileint a dellis yndaw, o gamhet idaw
21 attal y mab ganthaw, ac ef yn gwybot y uot yn uab
22 y wr arall. A phan gauas gyntaf o yscaualwch ar y
23 wreic, ef a uenegis idi hi, nat oed iawn udunt wy attal y
24 mab ganthunt,
25 wreicda kystal a Riannon o'r achaws hwnnw, a'r mab yn
26 uab y Pwyll Penn Annwn.
27 A hitheu wreic Teirnon a gytsynnywys ar anuon y
28 mab y Pwyll. "A thripheth,
1 gaffwn o hynny, diolwch ac elwissen o ellwg Riannon o'r
2 poen y mae yndaw, a diollwch gan Pwyll am ueithryn y
3 mab, a'e eturyt idaw. A'r trydyd peth, os gwr mwyn uyd
4 y mab, mab maeth ynni uyd, a goreu a allo uyth a wna
5 inni." Ac ar y kynghor hwnnw y trigyssant. Ac ny bu
6 <ms. p. 35>hwy ganthunt no thrannoeth, ymgueiraw a oruc
7 Teirnon ar y drydyd marchawc, a'r mab yn petwyryd y
8 gyt ac wynt ar y march a rodyssei Teirnon idaw. A cherdet
9 parth ac Arberth a wnaethont. Ny bu hir y buont yny
10 doethont y Arberth. Pan doethant parth a'r llys, wynt a
11 welynt Riannon yn eisted yn emmyl yr yskynuaen. Pan
12 doethont yn ogyuuch a hi, "A unbenn," heb hi, "nac
13 ewch bellach hynny. Mi a dygaf pob un o honawch hyt
14 y llys. A hynny yw uym penyt am lad o honaf uu hun
15 uy mab, a'e diuetha." "A wreicda," heb y Teirnon,
16 "ny thebygaf i y un o hyn uynet ar dy geuyn di." "Aet
17 a'y mynho," heb y mab, "nyt af i." "Dioer, eneit," heb
18 Teirnon, "nyt awn ninheu." Y llys a gyrchyssant. A
19 diruawr llywenyd a uu yn y herbyn. Ac yn dechreu
20 treulaw y wled yd oedit yn y llys. Ynteu Pwyll a oed yn
21 dyuot o gylchaw Dyuet. Y'r yneuad yd aethont, ac y
22 ymolchi. A llawen uu Pwyll wrth Teirnon, ac y eisted
23 yd aethont. Sef ual yd eistedyssont, Teirnon y rwg
24 Pwyll a Riannon, a deu gedymdeith Teirnon uch llaw
25 Pwyll a'r mab y ryngthunt. Guedy daruot bwyta, ar
26 dechreu kyuedach, ymdidan a wnaethon. Sef ymdidan
27 a uu gan Teirnon, menegi y holl gyfranc am y gassec ac
1 am y mab,<ms. p. 36>a megys y buassei y mab ar y hardelw wy
2 Teirnon a'e wreic, ac y megyssynt. "Ac wely dy yna dy
3 uab, Arglwydes," heb y Teirnon. "A phwy bynnac a
4 dywot geu arnat, cam a wnaeth. A minheu pann gigleu
5 y gouut a oed arnat, trwm uu gennyf, a doluryaw a
6 wneuthum. Ac ny thebygaf o'r yniuer hwnn oll, nit
7 adnappo uot y mab yn uab y Pwyll," heb y Teirnon.
8 "Nyt oes neb," heb y pawb, "ny bo diheu gantaw
9 hynny." "Y rof i a Duw," heb y Riannon, "oed escor
10 uym pryder im, pei gwir hynny." "Arglwydes," heb
11 Pendaran Dyuet, "da yd enweist dy uab, Pryderi. A
12 goreu y gueda arnaw Pryderi uab Pwyll Penn Annwn."
13 "Edrychwch," heb y Riannon, "na bo goreu y gueda
14 arnaw y enw e hun." "Mae yr enu?" heb y Pendaran
15 Dyuet. "Gwri Wallt Euryn a dodyssom ni arnaw ef."
16 "Pryderi," heb Pendaran Dyuet, "uyd y enw ef."
17 "Yawnahaf yw hynny," heb y Pwyll, "kymryt enw y
18 mab y wrth y geir a dywot y uam, pann gauas llawen
19 chwedyl y wrthaw." Ac ar hynny y trigwyt.
20 "Teirnon," heb y Pwyll, "Duw a dalo yt ueithryn
21 y mab hwn hyt yr awr hon. A iawn yw idaw ynteu, o'r
22 byd gwr mwyn, y dalu ytti." "Arglwyd," heb y
23 Teirnon, "y wreic a'e magwys ef, nyt oes yn y byt dyn
24 uwy y galar no hi yn y ol. Iawn yw idaw coffau ymi, ac
25 <ms. p. 37>y'r wreic honno, a wnaethom yrdaw ef." "Y rof i a
26 Duw," heb y Pwyll,"tra parhawyf i, mi a'th kynhalyaf,
27 a thi a'th kyuoeth, tra allwyf kynnhal y meu uy hun. Os
28 ynteu a uyd, iawnach yw idaw dy gynnhal nogyt y mi.
1 Ac os kynghor gennyt ti hynny, a chan hynn o wyrda,
2 canys megeist ti ef hyt yr awr hon, ni a'e rodwn ar uaeth
3 at Pendaran Dyuet o hynn allan. A bydwch gedymdeithon
4 chwitheu a thatmaetheu idaw." "Kynghor
5 iawn," heb y pawb, "yw hwnnw." Ac yna y rodet y
6 mab y Pendaran Dyuet, ac yd ymyrrwys gwyrda y wlat
7 y gyt ac ef. Ac y kychwynnwys Teirnon Toryfliant a'y
8 gedymdeithon y ryngtaw a'y wlat ac a'e gyuoeth, gan
9 garyat a llywenyd. Ac nyt aeth heb gynnhic ydaw y
10 tlysseu teccaf a'r meirych goreu a'r cwn hoffaf. Ac ny
11 mynnwys ef dim.
12 Yna y trigyssant wynteu ar eu kyuoeth, ac y magwyt
13 Pryderi uab Pwyll Pen Annwn yn amgeledus, ual yd oed
14 dylyet, yny oed delediwhaf gwass, a theccaf, a chwpplaf
15 o pob camp da, o'r a oed yn y dyrnas. UeIly y treulyssant
16 blwydyn a blwydyned, yny doeth teruyn ar hoedyl
17 Pwyll Penn Annwn, ac y bu uarw. Ac y gwledychwys
18 ynteu Pryderi seith cantref Dyuet, yn llwydannus garedic
19 gan y gyuoeth, a chan pawb yn y gylch. Ac yn ol
20 hynny y kynydwys trychantref Ystrat Tywi<ms. p. 38>a
21 phedwar cantref Keredigyawn. Ac y gelwir y rei hynny,
22 seith cantref Seissyllwch. Ac ar y kynnyd hwnnw y bu
23 ef, Pryderi uab Pwyll Penn Annwn, yny doeth yn y uryt
24 wreika. Sef gwreic a uynnawd, Kicua, uerch Wynn
25 Gohoyw, uab Gloyw Walltlydan, uab Cassnar Wledic o
26 dyledogyon yr ynys hon.
27 Ac yuelly y teruyna y geing hon yma o'r
28 Mabynnogyon.
Branwen uerch Lyr
1 BENDIGEIDURAN uab Llyr, a oed urenhin
2 coronawc ar yr ynys hon, ac ardyrchawc o goron
3 Lundein. A frynhawngueith yd oed yn Hardlech
4 yn Ardudwy, yn llys idaw. Ac yn eisted yd oedynt ar
5 garrec Hardlech, uch penn y weilgi, a Manawydan uab
6 Llyr y urawt y gyt ac ef, a deu uroder un uam ac ef,
7 Nissyen, ac Efnyssyen, a guyrda y am hynny, mal y
8 gwedei ynghylch brenhin.
9 Y deu uroder un uam ac ef, meibon oedyn y
10 Eurosswyd o'e uam ynteu Penardun, uerch Ueli uab
11 Mynogan. A'r neill o'r gueisson hynny, gwas da oed;
12 ef a barei tangneued y rwg y deu lu, ban uydynt lidyawcaf;
13 sef oed hwnnw Nissyen. Y llall a barei ymlad y
14 rwng y deu uroder, ban uei uwyaf yd ymgerynt.
15 Ac ual yd oedynt yn eisted yuelly, wynt a welynt
16 teir llong ar dec, yn dyuot o deheu Iwerdon, ac yn
17 kyrchu parth ac attunt,<ms. p. 39>a cherdet rugyl ebrwyd
18 ganthunt: y gwynt yn eu hol, ac yn nessau yn ebrwyd
19 attunt. "Mi a welaf longeu racco," heb y brenhin, "ac
20 yn dyuot yn hy parth a'r tir. Ac erchwch y wyr y llys
21 wiscaw amdanunt, a mynet y edrych pa uedwl yw yr
22 eidunt." Y gwyr a wiscawd amdanunt ac a nessayssant
23 attunt y wayret. Gwedy guelet y llongeu o agos, diheu
1 oed ganthunt na welsynt eiryoet llongeu gyweirach eu
2 hansawd noc wy. Arwydon tec, guedus, arwreid o bali
3 oed arnunt.
4 Ac ar hynny, nachaf un o'r llongeu yn raculaenu rac
5 y rei ereill, ac y guelynt dyrchauael taryan, yn uch no
6 bwrd y llong, a swch y taryan y uynyd yn arwyd tangneued.
7 Ac y nessawys y gwyr attunt, ual yd ymglywynt
8 ymdidan. Bwrw badeu allan a wnaethont wynteu, a
9 nessau parth a'r tir, a chyuarch guell y'r brenhin. E
10 brenhin a'e clywei wynteu o'r lle yd oed ar garrec uchel
11 uch eu penn, "Duw a rodo da ywch," heb ef, "a
12 grayssaw wrthywch. Pieu yniuer y llongeu hynn, a
13 phwy yssyd pennaf arnunt wy?" "Arglwyd," heb
14 wynt, "mae ymma Matholwch brenhin Iwerdon, ac ef
15 bieu y llongeu." "Beth," heb y brenhin, "a uynnhei
16 ef? A uyn ef dyuot y'r tir?" "Na uynn, Arglwyd,"
17 heb wynt, "negessawl<ms. p. 40>yw wrthyt ti, onyt y neges a
18 geif." "By ryw neges yw yr eidaw ef?" heb y brenhin.
19 "Mynnu ymgyuathrachu a thidy, Arglwyd," heb wynt.
20 "Y erchi Branwen uerch Lyr y doeth, ac os da genhyt
21 ti, ef a uyn ymrwymaw ynys y Kedeirn ac Iwerdon y
22 gyt, ual y bydynt gadarnach." "Ie," heb ynteu, "doet
23 y'r tir, a chynghor a gymerwn ninheu am hynny." Yr
24 atteb hwnnw a aeth ataw ef. "Minheu a af yn llawen,"
25 heb ef. Ef a doeth y'r tir, a llawen uuwyt wrthaw; a
26 dygyuor mawr uu yn y llys y nos honno, y rwng e yniuer
27 ef ac yniuer y llys.
28 Yn y lle trannoeth, kymryt kynghor. Sef a gahat
29 yn y kynghor, rodi Branwen y Uatholwch. A honno
1 oed tryded prif rieni yn yr ynys hon; teccaf morwyn yn
2 y byt oed. A gwneuthur oed yn Aberfraw y gyscu
3 genti, ac odyno y kychwyn. Ac y kychwynassant yr
4 yniueroed hynny parth ac Aberfraw, Matholwch a'y
5 yniueroed yn y llongheu, Bendigeituran a'y niuer ynteu
6 ar tir, yny doethant hyt yn Aberfraw. Yn Aberfraw
7 dechreu y wled, ac eisted. Sef ual yd eistedyssant,
8 brenhin Ynys y Kedeirn, a Manawydan uab Llyr o'r
9 neill parth idaw, a Matholwch o'r parth arall, a Branwen
10 uerch Lyr gyt ac ynteu.
11 Nyt ymywn ty yd oydynt, namyn ymywn palleu.
12 Ny angassei Uendigeituran eiryoet ymywn ty.
13 <ms. p. 41>A'r gyuedach a dechreussant. Dilit y gyuedach
14 a wnaethant ac ymdidan. A phan welsant uot yn well
15 udunt kymryt hun no dilyt kyuedach, y gyscu yd aethant.
16 A'r nos honno y kyscwys Matholwch gan Uranwen.
17 A thrannoeth, kyuodi a orugant pawb o niuer y llys; a'r
18 swydwyr a dechreusant ymaruar am rannyat y meirych
19 a'r gweisson. Ac eu rannu a wnaethant ym pob kyueir
20 hyt y mor. Ac ar hynny dydgueith, nachaf Efnyssen
21 [y] gwr anagneuedus a dywedassam uchot, yn dywanu
22 y lety meirch Matholwch, a gouyn a wnaeth, pioed y
23 meirch. "Meirych Matholwch brenhin Iwerdon yw y
24 rei hyn," heb wy. "Beth a wnant wy yna?" heb ef.
25 "Yma y mae brenhin Iwerdon, ac yr gyscwys gan
26 Uranwen dy chwaer, a'y ueirych yw y rei hynn." "Ay
27 yuelly y gwnaethant wy am uorwyn kystal a honno, ac
28 yn chwaer y minheu, y rodi heb uyghanyat i? Ny
1 ellynt wy tremic uwy arnaf i," heb ef. Ac yn hynny
2 guan y dan y meirych, a thorri y guefleu wrth y danned
3 udunt, a'r clusteu wrth y penneu, a'r rawn wrth y keuyn;
4 ac ny caei graf ar yr amranneu, eu llad wrth yr ascwrn.
5 A gwneuthur anfuryf ar y meirych yuelly, hyd nat oed
6 rym a ellit a'r meirych.
7 E chwedyl a doeth at Uatholwch. Sef ual y doeth,
8 dywedut<ms. p. 42>anfuruaw y ueirych ac eu llygru, hyt nat
9 oed un mwynyant a ellit o honunt. "Ie, Arglwyd," heb
10 un, "dy waradwydaw yr a wnaethpwyt, a hynny a
11 uynhir y wneuthur a thi." "Dioer, eres genhyf, os uy
12 gwaradwydaw a uynhynt, rodi morwyn gystal, kyuurd,
13 gyn anwylet gan y chenedyl, ac a rodyssant ym."
14 "Arglwyd," heb un arall, "ti a wely dangos ef. Ac nyt
15 oes it a wnelych, namyn kyrchu dy longeu." Ac ar
16 hynny arouun y longeu a wnaeth ef.
17 E chwedyl a doeth at Uendigeituran, bot Matholwch
18 yn adaw y llys, heb ouyn, heb ganhyat. A chenadeu a
19 aeth y ouyn idaw, paham oed hynny. Sef kennadeu a
20 aeth, Idic uab Anarawc, ac Eueyd Hir. Y guyr hynny
21 a'y godiwawd, ac a ouynyssant idaw, pa darpar oed yr
22 eidaw, a pha achaws yd oed yn mynet e ymdeith.
23 "Dioer," heb ynteu, "pei ys gwypwn, ny down yma.
24 Cwbyl waradwyd a geueis. Ac ny duc neb kyrch waeth
25 no'r dugum ymma. A reuedawt rygyueryw a mi."
26 "Beth yw hynny?" heb wynt. "Rodi Bronwen uerch
27 Lyr ym, yn tryded prif rieni yr ynys honn, ac yn uerch
28 y urenhin Ynys y Kedeyrn, a chyscu genthi, a gwedy
1 hynny uy gwaradwydaw. A ryued oed genhyf, nat kyn
2 rodi morwyn gystal a honno ym, y gwneit y<ms. p. 43>gwaradwyd
3 a wnelit ym." "Dioer, Arglwyd, nyt o uod y neb a
4 uedei y llys," heb wynt, "na neb o'e kynghor y
5 gwnaet[h]pwyt y gwaradwyd hwnnw yt. A chyt bo
6 gwaradwyd gennyt ti hynny, mwy yw gan Uendigeituran
7 no chenyt ti, y tremic hwnnw a'r guare." "Ie," heb ef,
8 "mi a tebygaf. Ac eissoes ni eill ef uy niwaradwydaw i
9 o hynny."
10 E gwyr hynny a ymchwelwys a'r atteb hwnnw, parth
11 a'r lle yd oed Uendigeituran, a menegi idaw yr atteb a
12 diwedyssei Uatholwch. "Ie," heb ynteu, "nyt oes
13 ymwaret e uynet ef yn anygneuedus, ac nys gadwn."
14 "Ie, Arglwyd," heb wy, "anuon etwa genhadeu yn y ol."
15 "Anuonaf," heb ef. "Kyuodwch, Uanawydan uab Llyr,
16 ac Eueyd Hir, ac Unic Glew Yscwyd, ac ewch yn y ol,"
17 heb ef, "a menegwch idaw, ef a geif march iach am pob
18 un o'r a lygrwyt; ac y gyt a hynny, ef a geif yn wynepwerth
19 idaw, llathen aryant a uo kyuref [a'e uys bychan]
20 a chyhyt ac ef e hun, a chlawr eur kyflet a'y wyneb; a
21 menegwch ydaw pa ryw wr a wnaeth hynny, a phan yw
22 o'm anuod inheu y gwnaethpwyt hynny; ac y may
23 brawt un uam a mi a wnaeth hynny, ac nat hawd genhyf
24 i na'e lad na'e diuetha; a doet y ymwelet a mi," heb ef,
25 "a mi a wnaf y dangneued ar y llun<ms. p. 44>y mynho e hun."
26 E kennadeu a aethant ar ol Matholwch, ac a uanagyssant
27 idaw yr ymadrawd hwnnw yn garedic, ac ef a'e
28 guerendewis. "A wyr," heb ef, "ni a gymerwn gynghor."
29 Ef a aeth yn y gynghor; sef kynghor a uedylyssant, --os
1 gwrthot hynny a wnelynt, bot yn tebygach ganthunt cael
2 kywilid a uei uwy, no chael iawn a uei uwy. A disgynnu,
3 a wnaeth ar gymryt hynny. Ac y'r llys y deuthant yn
4 dangneuedus. A chyweiraw y pebylleu a'r palleu a
5 wnaethant udunt ar ureint kyweirdeb yneuad, a mynet y
6 uwyta. Ac ual y dechreuyssant eisted ar dechreu y wled,
7 yd eistedyssant yna.
8 A dechreu ymdidan a wnaeth Matholwch a Bendigeituran.
9 Ac nachaf yn ardiawc gan Uendigeituran
10 yr
11 lywenyt yn wastat kyn no hynny. A medylyaw a
12 wnaeth, bot yn athrist gan yr unben uychanet a gawssei
13 o iawn am y gam. "A wr," heb y Bendigeiduran, "nit
14 wyt gystal ymdidanwr heno ac un nos. Ac os yr
15 bychanet genhyt ti dy iawn, ti a gehy ychwanegu yt
16 wrth dy uynnu, ac auory talu dy ueirch yt." "Arglwyd,"
17 heb ef, "Duw a dalo yt." "Mi a delediwaf dy iawn
18 heuyt yt," heb y Bendigeituran. "Mi a rodaf yt peir;
19 a chynnedyf y peir yw,<ms. p. 45>y gwr a lader hediw yt, y
20 uwrw yn y peir, ac erbyn auory y uot yn gystal ac y bu
21 oreu, eithyr na byd llyueryd ganthaw." A diolwch a
22 wnaeth ynteu hynny, a diruawr lywenyd a gymerth
23 ynteu o'r achaws hwnnw. A thrannoeth y talwyt y
24 ueirych idaw, tra barhawd meirych dof. Ac odyna y
25 kyrchwyt ac ef kymwt arall, ac y talwyt ebolyon ydaw,
26 yny uu gwbyl idaw y dal. Ac wrth hynny y dodet ar y
27 kymwt hwnnw o hynny allan, Tal Ebolyon.
1 A'r eil nos, eisted y gyt a wnaethant. "Arglwyd,"
2 heb y Matholwch, "pan doeth yti y peir a rodeist y mi?"
3 "E doeth im," heb ef, "y gan wr a uu y'th wlat ti. Ac ni
4 wn na bo yno y caffo." "Pwy oed hwnnw?" heb ef.
5 "Llassar Llaes Gyfnewit," heb ef. "A hwnnw a doeth
6 yma o Iwerdon, a Chymidei Kymeinuoll, y wreic, y gyt
7 ac ef, ac a dianghyssant o'r ty hayarn yn Iwerdon, pan
8 wnaethpwyt yn wenn yn eu kylch, ac y dianghyssant
9 odyno. Ac eres gynhyf i, ony wdosti dim y wrth
10 hynny." "Gwn, Arglwyd," heb ef, "a chymeint ac a
11 wnn, mi a'e managaf y ti. Yn hela yd oedwn
12 yn Iwerdon, dydgueith, ar benn gorssed
13 yn Iwerdon, a Llyn y Peir y gelwit. A mi a welwn gwr
14 melyngoch, mawr, yn dyuot o'r llyn, a pheir ar y geuyn.
15 A gwr heuyt athrugar, mawr, a drygweith anorles arnaw
16 oed; a gwreic yn y ol; ac ot<ms. p. 46>oed uawr ef, mwy dwyweith
17 oed y wreic noc ef. A chyrchu ataf a wnaethant, a
18 chyuarch uell im." "Ie," heb y mi, "pa gerdet yssyd
19 arnawch chwi? ʽLlyna gerdet yssyd arnam ni, Arglwyd,'
20 heb ef, ʽy wreic honn,' heb ef, ʽym penn pethewnos a
21 mis, y byd beichogi idi, a'r mab a aner yna o'r torllwyth
22 hwnnw, ar benn y pethewnos a'r mis,
23 llawn aruawc.' Y kymereis inheu wyntwy arnaf, yu
24 gossymdeithaw: y buant ulwydyn gyt a mi. Yn y
25 ulwydyn y keueis yn diwarauun wynt; o hynny allann y
26 guarauunwyt im. A chyn penn y pedwyryd [mis]
27 eu hun yn peri eu hatcassu, ac anghynwys yn y wlat, yn
1 gwneuthur sarahedeu, ac yn eighaw, ac yn gouudyaw
2 guyrda a gwragedda. O hynny allan y dygyuores uyg
3 kyuoeth am ym pen, y erchi im ymuadeu ac wynt, a
4 rodi dewis im, ae uyg kyuoeth, ae wynt. E dodeis inheu
5 ar gynghor uy gwlat beth a wneit amdanunt. Nyd eynt
6 wy o'y bod; nit oed reit udunt wynteu oc eu hanuod
7 herwyd ymlad, uynet. Ac yna yn y kyuyng gynghor, y
8 causant gwneuthur ystauell haearn oll; a gwedy bot y
9 barawt yr ystauell, dyuyn a oed o of y n Iwerdon yno, o'r
10 a oed o perchen geuel a mwrthwl, a pheri gossot kyuuch
11 a chrib yr ystauell o lo, a pheri guassanaethu<ms. p. 47>yn
12 diwall o uwyt a llyn arnunt, ar y wreic, a'y gwr, a'y
13 phlant. A phan wybuwyt eu medwi wynteu, y dechreuwyt
14 kymyscu y tan a'r glo am ben yr ystauell, a chwythu
15 y megineu a oed wedy eu gossot yg kylch y ty, a gwr a
16 pob dwy uegin, a dechreu chwythu y megineu yny uyd
17 y ty yn burwen am eu penn. Ac yna y bu y kynghor
18 ganthunt hwy ymherued llawr yr ystauell; ac yd arhoes
19 ef yny uyd y pleit haearn yn wenn. Ac rac diruawr wres
20 y kyrchwys y bleit a'e yscwyd a'y tharaw gantaw allan,
21 ac yn y ol ynteu y wreic. A neb ny dieghis odyna namyn
22 ef a'e wreic. Ac yna o'm tebygu i, Arglwyd," heb y
23 Matholwch wrth Uendigeiduran, "y doeth ef drwod attat
24 ti." "Yna dioer," heb ynteu, "y doeth yma, ac y roes y
25 peir y minheu." "Pa delw, Arglwyd, yd erbynneisti
26 wynteu?" "Eu rannu ym pob lle yn y kyuoeth, ac y
27 maent yn lluossauc, ac yn dyrchauael ym pob lle, ac yn
28 cadarnhau y uann y bythont, o wyr ac arueu goreu a
29 welas neb."
1 Dilit ymdidan a wnaethant y nos honno, tra uu da
2 ganthunt, a cherd a chyuedach. A phan welsant uot
3 yn llessach udunt uynet y gyscu noc eisted a wei hwy, y
4 gyscu yd aethant. Ac yuelly y treulyssant y wled honno
5 drwy digriuwch. Ac<ms. p. 48>yn niwed hynny, y kychwynnwys
6 Matholwch, a Branuen y gyt ac ef, parth ac
7 Iwerdon. A hynny o Abermenei y kychwynnyssant teir
8 llong ar dec, ac y doethant hyt yn Iwerdon.
9 Yn Iwerdon, diruawr lywenyd a uu wrthunt. Ny
10 doey wr mawr, na gwreic da yn Iwerdon, e ymw[e]let a
11 Branwen, ni rodei hi ae cae, ae modrwy, ae teyrndlws
12 cadwedic ydaw, a uei arbennic y welet yn mynet e
13 ymdeith. Ac ymysc hynny, y ulwydyn honno a duc hi
14 yn glotuawr, a hwyl delediw a duc o glot a chedymdeithon.
15 Ac yn hynny, beichogi a damweinwys idi y
16 gael. A guedy treulaw yr amseroyd dylyedus, mab a
17 anet idi. Sef enw a dodet ar y mab, Guern uab
18 Matholwch. Rodi y mab ar uaeth a wnaethpwyt ar un
19 lle goreu y wyr yn Iwerdon.
20 A hynny yn yr eil ulwydyn, llyma ymodwrd yn
21 Iwerdon am y guaradwyd a gawssei Matholwch yg
22 Kymry, a'r somm a wnathoedit idaw am y ueirch. A
23 hynny y urodyr maeth, a'r gwyr nessaf gantaw, yn
24 lliwaw idaw hynny, a heb y gelu. A nachaf y dygyuor yn
25 Iwerdon hyt nat oed lonyd idaw ony chaei dial y sarahet.
26 Sef dial a wnaethant, gyrru Branwen o un ystauell ac ef,
27 a'y chymell y bobi yn y llys, a pheri y'r kygyd, gwedy
28 bei yn dryllyaw kic, dyuot idi a tharaw bonclust arnei
1 beunyd. Ac yuelly<ms. p. 49>y gwnaethpwyt y foen. "Ie,
2 Arglwyd," heb y wyr wrth Uatholwch, "par weithon
3 wahard y llongeu, a'r yscraffeu, a'r corygeu, ual nat el
4 neb y Gymry; ac a del yma o Gymry, carchara wynt
5 ac
6 diskynyssant.
7 Blwynyded nit llei no their, y buant yuelly. Ac yn
8 hynny, meithryn ederyn drydwen a wnaeth hitheu ar
9 dal y noe gyt a hi, a dyscu ieith idi, a menegi y'r ederyn
10 y ryw wr oed y brawt. A dwyn llythyr y poeneu a'r
11 amharch a oed arnei hitheu. A'r llythyr a rwymwyt am
12 uon eskyll yr ederyn, a'y anuon parth a Chymry. A'r
13 ederyn a doeth y'r ynys honn. Sef lle y cauas Uendigeiduran,
14 yg Kaer Seint yn Aruon, yn dadleu idaw
15 dydgweith. A diskynnu ar e yscwyd, a garwhau y phluf,
16 yny arganuuwyt y llythyr, ac adnabot meithryn yr
17 ederyn yg kyuanned. Ac yna kymryt y llythyr a'y
18 edrych. A phan darllewyt y llythyr, doluryaw a wnaeth
19 o glybot y poen oed ar Uranwen, a dechreu o'r lle hwnnw
20 peri anuon kennadeu y dygyuoryaw yr ynys honn y gyt.
21 Ac yna y peris ef dyuot llwyr wys pedeir degwlat a seithugeint
22 hyt attaw, ac e hun cwynaw wrth hynny, bot y
23 poen a oed ar y chwaer. Ac yna kymryt kynghor. Sef
24 kynghor a gahat, kyrchu Iwerdon, ac adaw seithwyr y
25 dywyssogyon yma, a Chradawc uab Bran y benhaf, ac eu
26 seith<ms. p. 50>marchawc. Yn Edeirnon yd edewit y gwyr
27 hynny, ac o achaws hynny y dodet Seith Marchawc ar y
1 dref. Sef seithwyr oedynt, Cradawc uab Bran, ac Euehyd
2 Hir, ac Unic Glew Yscwyd, ac Idic uab Anarawc Walltgrwn,
3 a Fodor uab Eruyll, ac Wlch Minasgwrn, a Llashar
4 uab Llayssar Llaesgygwyt, a Phendaran Dyuet yn was
5 ieuanc gyt ac wy. Y seith hynny a drigwys yn seith
6 kynueissat y synyaw ar yr ynys honn, a Chradawc uab
7 Bran yn benhaf kynweisyat arnunt.
8 Bendigeiduran, a'r yniuer a dywedyssam ni, a hwylyssant
9 parth ac Iwerdon, ac nyt oed uawr y weilgi, yna
10 y ueis yd aeth ef. Nyt oed namyn dwy auon, Lli ac
11 Archan y gelwit. A guedy hynny yd amlawys y weilgi,
12 pan oreskynwys y weilgi y tyrnassoed. Ac yna y
13 kerdwys ef ac a oed o gerd
14 chyrchu tir Iwerdon.
15 A meicheit Matholwch a oedynt ar lan y weilgi
16 dydgueith, yn troi yg kylch eu moch. Ac o achaws e
17 dremynt
18 Matholwch. "Arglwyd," heb vy, "henpych guell."
19 "Duw a rodo da ywch," heb ef, "a chwedleu genhwch?"
20 "Arglwyd," heb wy, "mae genhym ni chwedleu ryued;
21 coet rywelsom ar y weilgi, yn y lle ny welsam eiryoet un
22 prenn." "Llyna beth eres," heb ef. "A welewch chwi
23 namyn hynny?" "Gwelem, Arglwyd," heb wy, "mynyd
24 <ms. p. 51>mawr gyr llaw y coet, a hwnnw ar gerdet; ac eskeir
25 aruchel ar y mynyd, a llynn o pop parth y'r eskeir; a'r
26 coet, a'r mynyd, a phob peth oll o hynny ar gerdet."
27 "Ie," heb ynteu, "nyt oes neb yma a wypo dim y wrth
1 hynny, onys gwyr Branwen. Gouynnwch idi." Kennadeu
2 a aeth at Uranwen. "Arglwydes," heb wy,
3 "beth dybygy di yw hynny?" "Kyn ny bwyf
4 Arglwydes," heb hi, "mi a wnn beth yw hynny. Gwyr
5 Ynys y Kedyrn yn dyuot drwod o glybot uym poen a'm
6 amharch." "Beth yw y coet a welat ar y mor?" heb
7 wy. "Gwernenni llongeu, a hwylbrenni," heb hi.
8 "Och!" heb wy, "beth oed y mynyd a welit gan ystlys
9 y llongeu?" "Bendigeiduran uym brawt," heb hi, "oed
10 hwnnw, yn dyuot y ueis. Nyt oed long y kynghanei ef
11 yndi." "Beth oed yr eskeir aruchel a'r llynn o bop
12 parth y'r eskeir?" "Ef," heb hi, "yn edrych ar yr ynys
13 honn, llidyawc yw. Y deu lygat ef o pop parth y drwyn
14 yw y dwy lynn o bop parth y'r eskeir."
15 Ac yna dygyuor holl wyr ymlad Iwerdon a wnaethpwyt
16 y gyt, a'r holl uorbennyd yn gyflym, a chynghor a
17 gymerwyt. "Arglwyd," heb y wyrda wrth Uatholwch,
18 "nyt oes gynghor namyn kilyaw drwy Linon (auon oed
19 yn Iwerdon), a gadu Llinon y rot ac ef, a thorri y bont
20 yssyd ar yr auon.<ms. p. 52>A mein sugyn yssyd ygwaelawt yr
21 auon, ny eill na llong na llestyr arnei." Wynt a gylyssant
22 drwy yr auon, ac a torryssant y bont.
23 Bendigeiduran a doeth y'r tir, a llynghes y gyt ac ef,
24 parth a glann yr auon. "Arglwyd," heb y wyrda, "ti a
25 wdost kynnedyf yr auon, ny eill neb uynet drwydi, nyt
26 oes bont arnei hitheu. Mae dy gynghor am bont?" heb
27 wy. "Nit oes," heb ynteu, "namyn a uo penn bit pont.
1 Mi a uydaf pont," heb ef. Ac yna gyntaf y dywetpwyt
2 y geir hwnnw, ac y diharebir etwa ohonaw.
3 Ac yna guedy gorwed ohonaw ef ar traws yr auon, y
4 byrwyt clwydeu arnaw ef, ac yd aeth y luoed ef ar y
5 draws ef drwod. Ar hynny, gyt ac y kyuodes ef, llyma
6 gennadeu Matholwch yn dyuot attaw ef, ac yn kyuarch
7 guell idaw, ac yn y annerch y gan Uatholwch y gyuathrachwr,
8 ac yn menegi o'e uod ef na haedei arnaw ef
9 namyn da. "Ac y mae Matholwch yn rodi brenhinaeth
10 Iwerdon y Wern uab Matholwch, dy nei ditheu, uab
11 dy chwaer, ac yn y ystynnu y'th wyd di, yn lle y cam
12 a'r codyant a wnaethpwyt y Uranwen. Ac yn y lle y
13 mynnych ditheu, ay yma, ay yn Ynys y Kedyrn, gossymdeitha
14 Uatholwch." "Ie," heb ynteu Uendigeiduran,
15 "ony allaf i ue hun cael y urenhinaeth, ac aduyd ys
16 kymeraf gynghor<ms. p. 53>am ych kennadwri chwi. O hyn
17 hyt ban del amgen, ny cheffwch y genhyf i attep."
18 "Ie," heb wynteu, "yr atteb goreu a gaffom ninheu,
19 attat ti y down ac ef, ac aro ditheu yn kennadwri ninheu."
20 "Arhoaf," heb ef, "o dowch yn ehegyr."
21 Y kennadeu a gyrchyssant racdu, ac at Uatholwch y
22 doethant. "Arglwyd," heb wy, "kyweira attep a uo
23 gwell at Uendigeidwran. Ny warandawei dim o'r attep
24 a aeth y genhym ni attaw ef." "A wyr," heb y
25 Matholwch, "mae ych kynghor chwi?" "Arglwyd,"
26 heb wy, "nyt oes it gynghor namyn un. Ni enghis ef y
27 mywn ty eiryoet," heb wy. "Gwna ty," heb wy, "o'y
28 anryded ef, y ganho ef a gwyr Ynys y Kedyrn yn y
1 neillparth y'r ty, a thitheu a'th lu yn y parth arall. A
2 doro dy urenhinaeth yn y ewyllus, a gwra idaw. Ac o
3 enryded gwneuthur y ty," heb wy, "peth ny chauas
4 eiryoet ty y ganhei yndaw, ef a tangnoueda a thi." A'r
5 kennadeu a doethant a'r gennadwri honno gantunt at
6 Uendigeiduran; ac ynteu a gymerth gynghor. Sef a
7 gauas yn y gynghor, kymryt hynny; a thrwy gynghor
8 Branuen uu hynny oll, ac rac llygru y wlat oed genti
9 hitheu hynny.
10 E tangneued a gyweirwyt, a'r ty a adeilwyt yn uawr
11 ac yn braf. Ac ystryw a wnaeth y Gwydyl. Sef ystryw
12 a wnaethant, dodi guanas o bop parth<ms. p. 54>y bop colouyn
13 o cant colouyn oed yn y ty, a dodi boly croyn ar bop
14 guanas, a gwr aruawc ym pob vn o honunt. Sef a wnaeth
15 Efnyssyen dyuot ymlaen llu Ynys y Kedyrn y mywn, ac
16 edrych golygon orwyllt antrugarawc ar hyt y ty. Ac
17 arganuot y bolyeu crwyn a wnaeth ar hyt y pyst. "Beth
18 yssyd yn y boly hwnn?" heb ef, wrth un o'r Gwydyl.
19 "Blawt, eneit," heb ef. Sef a wnaeth ynteu, y deimlaw
20 hyt ban gauas y benn, a guascu y benn, yny glyw y uyssed
21 yn ymanodi yn y ureichell
22 hwnnw, a dodi y law ar un arall a gouyn, "Beth yssyd
23 yma?" "Blawt," medei y Gwydel. Sef a wnai ynteu
24 yr un guare a fawb ohonunt, hyt nat edewis ef wr byw
25 o'r hollwyr o'r deu cannwr eithyr un. A dyuot at
26 hwnnw, a gouyn, "Beth yssyd yma?" "Blawt, eneit,"
27 heb y Gwydel. Sef a wnaeth ynteu, y deimlaw ef yny
1 gauas y benn, ac ual y guascassei benneu y rei ereill,
2 guascu penn hwnnw. Sef y clywei arueu am benn
3 hwnnw. Nyt ymedewis ef a hwnnw, yny ladawd. Ac
4 yna canu englyn, --
5 Yssit yn y boly hwnn amryw ulawt,
6 Keimeit, kynniuyeit, diskynneit yn trin,
7 Rac kydwyr cad barawt.
8 Ac ar hynny y dothyw y niueroed y'r ty. Ac y doeth
9 gwyr Ynys Iwer-<ms. p. 55>don y'r ty o'r neill parth, a gwyr
10 Ynys y Kedyrn o'r parth arall. Ac yn gynebrwydet ac
11 yd eistedyssant, y bu duundeb y rydunt, ac yd ystynnwyt
12 y urenhinaeth y'r mab.
13 Ac yna, guedy daruot y tangneued, galw o Uendigeiduran
14 y mab attaw. Y gan Uendigeiduran y kyrchawd
15 y mab at Uanawydan, a phawb o'r a'e guelei yn y garu.
16 E gan Uanawydan y gelwis Nyssyen uab Eurosswyd y
17 mab attaw. Y mab a aeth attaw yn diryon. "Paham,"
18 heb yr Efnissyen, "na daw uy nei uab uy chwaer attaf i?
19 Kyn ny bei urenhin ar Iwerdon, da oed genhyf i ymtiryoni
20 a'r mab." "Aet yn llawen," heb y Bendigeiduran.
21 Y mab a aeth attaw yn llawen. "Y Duw y dygaf uyg
22 kyffes," heb ynteu yn y uedwl, "ys anhebic a gyflauan
23 gan y tylwyth y wneuthur, a wnaf i yr awr honn."
24 A chyuodi y uynyd, a chymryt y mab erwyd y traet, a
25 heb ohir, na chael o dyn yn y ty gauael arnaw, yny
26 want y mab yn wysc y benn yn y gynneu. A fan welas
27 Uranwen y mab yn boeth yn y tan, hi a gynsynwys
28 uwrw neit yn y tan, o'r lle yd oed yn eisted rwng y deu
1 uroder. A chael o Uendigeiduran hi yn y neill law, a'y
2 tarean yn y llaw arall. Ac yna, ymgyuot<ms. p. 56>o bawb
3 ar hyt y ty. A llyna y godwrw mwyhaf a uu gan yniuer
4 un ty, pawb yn kymryt y arueu. Ac yna y dywot
5 Mordwyd Tyllyon, "Guern gwngwch uiwch Uordwyt
6 Tyllyon." Ac yn yd aeth pawb ym pen yr arueu, y
7 kynhelis Bendigeiduran Uranwen y rwng y taryan a'y
8 yscwyd.
9 Ac yna y dechrewis y Gwydyl kynneu tan dan y
10 peir dadeni. Ac yna y byrywyt y kalaned yn y peir, yny
11 uei yn llawn, ac y kyuodyn tranoeth y bore yn wyr
12 ymlad kystal a chynt, eithyr na ellynt dywedut. Ac yna
13 pan welas Efnissyen y calaned heb enni yn un lle o wyr
14 Ynys y Kedyrn, y dywot yn y uedwl, "Oy a Duw," heb
15 ef, "guae ui uy mot yn achaws y'r wydwic honn o wyr
16 Ynys y Kedyrn; a meuyl ymi," heb ef, "ony cheissaf i
17 waret rac hynn." Ac ymedyryaw ymlith calaned y
18 Gwydyl, a dyuot deu Wydel uonllwm idaw, a'y uwrw yn
19 y peir yn rith Gwydel. Emystynnu idaw ynteu yn y peir,
20 yny dyrr y peir yn pedwar dryll, ac yny dyrr y galon
21 ynteu. Ac o hynny y bu y meint goruot a uu y wyr
22 Ynys y Kedyrn. Ny bu oruot o hynny eithyr diang
23 seithwyr, a brathu Bendigeiduran yn y troet a
24 guenwynwaew.
25 Sef seithwyr a dienghis, Pryderi, Manawydan,
26 Gliuieu Eil Taran, Ta-<ms. p. 57>lyessin, ac Ynawc, Grudyeu
27 uab Muryel, Heilyn uab Gwyn Hen.
28 Ac yna y peris Bendigeiduran llad y benn. "A
29 chymerwch chwi y penn," heb ef, "a dygwch hyt y
1 Gwynuryn yn Llundein, a chledwch a'y wyneb ar Freinc
2 ef. A chwi a uydwch ar y ford yn hir; yn Hardlech y
3 bydwch seith mlyned ar ginyaw, ac Adar Riannon y
4 canu ywch. A'r penn a uyd kystal gennwch y gedymdeithas
5 ac y bu oreu gennwch, ban uu arnaf i eiryoet.
6 Ac y Guales ym Penuro y bydwch pedwamgeint mlyned.
7 Ac yny agoroch y drws parth ac Aber Henuelen
8 ar Gernyw, y gellwch uot yno a'r penn yn dilwgyr
9 genhwch. Ac o'r pan agoroch y drws hwnnw, ny ellwch
10 uot yno. Kyrchwch Lundein y gladu y penn. A
11 chyrchwch chwi racoch drwod." Ac yna y llas y benn
12 ef, ac y kychwynassant a'r penn gantu drwod, y seithwyr
13 hynn, a Branwen yn wythuet. Ac y Aber Alau yn
14 Talebolyon y doethant y'r tir. Ac yna eisted a wnaethant,
15 a gorfowys. Edrych oheni hitheu ar Iwerdon, ac
16 ar Ynys y Kedyrn, a welei ohonunt. "Oy a uab
17 Duw," heb hi, "guae ui o'm ganedigaeth. Da a dwy
18 ynys
19 uawr, a thorri y chalon ar hynny. A gwneuthur bed
20 petrual idi, a'e chladu yno yglan Alaw.
21 Ac ar hynny, ker-<ms. p. 58>det a wnaeth y seithwyr parth
22 a Hardlech, a'r penn ganthunt. Val y bydant y kerdet,
23 llyma gyweithyd yn kyuaruot ac wynt, o wyr a gwraged.
24 "A oes gennwch chwi chwedleu?" heb y Manawydan.
25 "Nac oes,"' heb wynt, "onyt goresgyn o Gaswallawn uab
26 Beli Ynys y Kedyrn, a'y uot yn urenhin coronawc yn
27 Llundein." "Pa daruu," heb wynteu, "y Gradawc
1 uab Bran, a'r seithwyr a edewit y gyt ac ef yn yr ynys
2 honn?" "Dyuot Caswallawn am eu penn, a llad y
3 chwegwyr, a thorri ohonaw ynteu Gradawc y galon o
4 aniuyget, am welet y cledyf yn llad y wyr, ac na wydat
5 pwy a'e lladei. Caswallawn a daroed idaw wiscaw llen
6 hut amdanaw, ac ny welei neb ef yn llad y gwyr, namyn
7 y cledyf. Ny uynhei Gaswallawn y lad ynteu, y nei uab
8 y geuynderw oed. (A hwnnw uu y trydyd dyn a torres y
9 gallon o aniuyget). Pendarar Dyuet, a oed yn was
10 ieuang gyt a'r seithwyr, a dienghis y'r coet," heb wynt.
11 Ac yna y kyrchyssant wynteu Hardlech, ac y
12 dechreussant eisted, ac y dechreuwyt ymdiwallu o uwyt
13 a llynn. Ac y [gyt ac y] dechreuyssant wynteu uwyta ac
14 yuet, dyuot tri ederyn, a dechreu canu udunt ryw gerd,
15 ac oc a glywssynt o gerd, diuwyn oed pob un iwrthi hi.
16 A fell dremynt oed udunt y guelet uch benn y weilgi allan.
17 <ms. p. 59>A chyn amlyket oed udunt wy a chyn bydynt gyt
18 ac wy. Ac ar hynny o ginyaw y buant seith mlyned.
19 Ac ym penn y seithuet ulwydyn, y kychwynyssant
20 parth a Gualas ym Penuro. Ac yno yd oed udunt lle
21 teg brenhineid uch benn y weilgi, ac yneuad uawr oed,
22 ac y'r neuad y kyrchyssant. A deu drws a welynt yn
23 agoret; y trydyd drws oed y gayat, yr hwnn y tu a
24 Chernyw. "Weldy racco," heb y Manawydan, "y drws
25 ny dylywn ni y agori." A'r nos honno y buant yno yn
26 diwall, ac yn digrif ganthunt. Ac yr a welsynt o ouut
27 yn y gwyd, ac yr a gewssynt e hun, ny doy gof udunt wy
28 dim, nac o hynny, nac o alar yn y byt. Ac yno y
1 treulyssant y pedwarugeint mlyned hyt na wybuant wy
2 eiryoet dwyn yspeit digriuach na hyurydach no honno.
3 Nyt oed anesmwythach, nac adnabot o un ar y gilyd y
4 uot yn hynny o amser, no fan doethan yno. Nit oed
5 anesmwythach ganthunt wynte gyduot y penn yna, no
6 phan uuassei Uendigeiduran yn uyw gyd ac wynt. Ac
7 o achaws y pedwarugeint mlyned hynny y gelwit
8 Ysbydawt Urdaul Benn. (Ysbydawt Uranwen a Matholwch
9 oed yr honn yd aethpwyt e Iwerdon).
10 Sef a wnaeth Heilyn uab Guyn dydgueith. "Meuyl
11 ar uy maryf i," heb ef, "onyt agoraf y<ms. p. 60>drws, e wybot
12 ay gwir a dywedir am hynny." Agori y drws a wnaeth, ac
13 edrych ar Gernyw, ac ar Aber Henuelen
14 edrychwys, yd oed yn gyn hyspysset ganthunt y gyniuer
15 collet a gollyssynt eiryoet, a'r gyniuer car a chedymdeith
16 a gollyssynt, a'r gyniuer drwc a dothoed udunt, a chyt
17 bei yno y kyuarffei ac wynt; ac yn benhaf oll am eu
18 harglwyd. Ac o'r gyuawr honno, ny allyssant wy orfowys
19 namyn kyrchi
20 bynnac y bydynt ar y ford, wynt a doethant hyt yn
21 Llundein, ac a gladyssant y penn yn y Gwynuryn.
22 A hwnnw trydyd matcud ban gudywyt, a'r trydyd
23 anuat datcud pann datcudywyt; cany doey ormes byth
24 drwy uor y'r ynys honn, tra uei y penn yn y cud hwnnw.
25 A hynny a dyweit y kyuarwydyd hwnn eu kyfranc wy.
26 "Y gwyr a gychwynwys o Iwerdon," yw hwnnw.
27 En Iwerdon nyt edewit dyn byw, namyn pump
1 gwraged beichawc ymywn gogof yn diffeithwch Iwerdon.
2 A'r pump wraged hynny, yn yr un kyfnot. a anet udunt
3 pum meib. A'r pym meib hynny a uagvssant, hyt ban
4 uuant weisson mawr, ac yny uedylyssant am wraged, ac
5 yny uu damunet gantunt eu cafael. Ac yna, kyscu pob
6 un lau heb lau<ms. p. 61>gan uam y gilid, a gwledychu y wlat
7 a'y chyuanhedu, a'y ranhu y rydunt yll pymp. Ac o
8 achaws y ranyat hwnnw y gelwir etwan pymp rann
9 Ywerdon. Ac edrych y wlat a wnaethant ford y buassei
10 yr aeruaeu, a chael eur, ac aryant, yny ytoedynt yn
11 gyuoethawc.
12 A llyna ual y teruyna y geing honn o'r Mabinyogi,
13 o achaws Paluawt Branwen, yr honn a uu tryded anuat
14 paluawt yn yr ynys honn; ac o achaws Yspadawt Uran,
15 pan aeth yniuer pedeir decwlat a seithugeint e Iwerdon,
16 y dial Paluawt Branwen; ac am y ginyaw yn Hardlech
17 seith mlyned; ac am Ganyat Adar Riannon, ac am
18 Yspydaut Benn pedwarugeint mlyned.
Manawydan uab Llyr
1 GUEDY daruot y'r seithwyr a dywedyssam ni uchot;
2 cladu penn Bendigeiduran yn y Gwynuryn yn
3 Llundein, a'y wyneb ar Freinc, edrych a wnaeth
4 Manauydan ar y dref yn Llundein, ac ar y gedymdeithon,
5 a dodi ucheneit uawr, a chymryt diruawr alar a hiraeth
6 yndaw.
7 "Oy a Duw Hollgyuoethawc, guae ui," heb ef, "nyt o
8 es neb heb le idaw heno namyn mi." "Arglwyd,"
9 heb y Pryderi, "na uit kyn drymhet genhyt a hynny.
10 Dy geuynderw yssyd urenhin yn Ynys y Kedyrn; a chyn
11 gwnel gameu it," heb ef, "ny buost hawlwr tir a dayar
12 ei-<ms. p. 62>ryoet. Trydyd lledyf unben wyt." "Ie," heb ef,
13 "kyt boet keuynderw y mi y gwr hwnnw, goathrist yw
14 genhyf i guelet neb yn lle Bendigeiduran uy mrawt, ac
15 ny allaf uot yn llawen yn un ty ac ef." "A wney ditheu
16 gynghor arall?" heb y Pryderi. "Reit oed im wrth
17 gynghor," heb ef, "a pha gynghor yw hwnnw?" "Seith
18 cantref Dyuet yr edewit y mi," heb y Pryderi, "a Riannon
19 uy mam yssyd yno. Mi a rodaf it honno, a medyant y
20 seith cantref genthi. A chyny bei itti o gyuoeth namyn
21 y seith cantref hynny, nyt oes seith cantref well noc wy.
22 Kicua, uerch Wyn Gloyw, yw uy gwreic inheu," heb ef.
23 "A chyn bo enwedigaeth y kyuoeth y mi, bit y mwynant
1 y ti a Riannon. A phei mynhut gyuoeth eiryoet, aduyd y
2 caffut ti [waeth] hwnnw." "Na uynhaf, unben," heb ef,
3 "Duw a dalo it dy gydymdeithas." "E gedymdeithas oreu
4 a allwyf i, yti y byd, os mynny." "Mynnaf, eneit,"
5 heb ef. "Duw a dalo it. A mi a af gyt a thi y edrych
6 Riannon, ac y edrych y kyuoeth." "Iawn a wney," heb
7 ynteu. "Mi a debygaf na werendeweist eiryoet ar
8 ymdidanwreic well no hi. Er amser y bu hitheu yn y
9 dewred, ny bu wreic delediwach no hi, ac etwa ny bydy
10 anuodlawn y phryt."
11 Vynt a gerdassant racdunt. A pha hyt<ms. p. 63>bynnac
12 y bydynt ar y ford, wynt a doethant y Dyuet. Gwled
13 darparedic oed udunt erbyn eu dyuot yn Arberth, a
14 Riannon a Chicua wedy y harlwyaw.
15 Ac yna dechreu kydeisted ac ymdidan o Uanawydan
16 a Riannon; ac o'r ymdidan tirioni a wnaeth y uryt a'y
17 uedwl wrthi, a hoffi yn y uedwl na welsei eiryoed wreic
18 digonach y theket a'y thelediwet no hi.
19 "Pryderi," heb ef, "mi a uydaf wrth a dywedeisti."
20 "Pa dywedwydat oed hwnnw?" heb y Riannon.
21 "Arglwydes," heb ef Pryderi, "mi a'th roessum yn wreic
22 y Uanawydan uab Llyr." "A minheu a uydaf wrth
23 hynny yn llawen," heb y Riannon. "Llawen yw genhyf
24 inheu," heb y Manawydan, "a Duw a dalo y'r gwr yssyd
25 yn rodi i minheu y gedymdeithas mor difleis a hynny".
26 Kyn daruot y wled honno, y kyscwyt genti.
27 "Ar ny deryw o'r wled," heb y Pryderi, "treulwch
28 chwi, a minheu a af y hebrwng uy gwrogaeth y Gaswallawn
1 uab Beli hyt yn Lloegyr." "Arglwyd," heb y
2 Riannon, "yg Kent y mae Caswallawn, a thi a elly
3 treulaw y wled honn a'y arhos a uo nes." "Ninheu a'y
4 arhown," heb ef. A'r wled honno a dreulyssant, a
5 dechreu a wnaethant kylchaw Dyuet, a'y hela, a chymryt
6 eu digriuwch.
7 Ac wrth rodyaw y wlat ny welsynt eiryoet wlat<ms. p. 64>
8 gyuanhedach no hi, na heldir well, nac amlach y mel na'y
9 physcawt no hi. Ac yn hynny tyuu kedyrndeithas y
10 rydunt yll pedwar, hyt na mynnei yr un uot heb y gilid
11 na dyd na nos. Ac ymysc hynny, ef a aeth at Caswallawn
12 hyt yn Rytychen, y hebrwng y wrogaeth idaw.
13 A diruawr lywenyd a uu yn y erbyn yno, a diolwch
14 idaw hebrwng y wrogaeth idaw. A guedy ymchwelut,
15 kymryt eu gwledeu ac eu hesmwythder a orugant
16 Pryderi a Manawydan.
17 A dechreu gwled a orugant yn Arberth, canys prif
18 lys oed, ac o honei y dechreuit pob anryded. A guedy
19 y bwyta kyntaf y nos honno, tra uei y gwassanaethwyr
20 yn bwyta, kyuodi allan a orugant, a chyrchu Gorssed
21 Arberth a wnaethant yll pedwar, ac yniuer gyt ac wynt.
22 Ac ual y bydant yn eisted yuelly, llyma dwrwf, a chan
23 ueint y twrwf, llyma gawat o nywl yn dyuot hyt na
24 chanhoed yr un ohonunt wy y gilid. Ac yn ol y nywl,
25 llyma yn goleuhau pob lle. A phan edrychyssant y ford
26 y guelyn y preideu, a'r anreitheu, a'r kyuanhed kyn no
27 hynny, ny welynt neb ryw dim, na thy, nac aniueil, na
28 mwc, na than, na dyn, na chyuanhed, eithyr tei y llys yn
1 wac, diffeith, anghyuanhed, heb dyn, heb uil yndunt
2 eu kedyrndeithon e hun<ms. p. 65>wedy eu colli, heb wybot
3 dim y wrthunt, onyt wyll pedwar.
4 "Oy a Arglwyd Duw," heb y Manawydan, "mae
5 yniuer y llys, ac yn anniuer ninheu namyn hynn? Awn
6 y edrych." Dyuot y'r yneuad a wnaethant; nit oed neb.
7 Kyrchu yr ystauell a'r hundy; ny welynt neb.
8 Ymedgell, nac yg kegin, nit oed namyn diffeithwch.
9 Dechreu a wnaethant yll pedwar treulaw y wled, a
10 hela a wnaethant, a chymryt eu digriuwch; a dechreu a
11 wnaeth pob un o honunt rodyaw y wlat a'r kyuoeth y
12 edrych a welynt ay ty ay kyuanhed; a neb ryw dim ny
13 welynt eithyr guydlwdyn. A guedy treulaw eu gwled ac
14 eu darmerth o honunt, dechreu a wnaethant ymborth ar
15 kic hela, a physcawt, a bydaueu. Ac yuelly blwydyn a'r
16 eil a dreulyssant yn digrif gantunt. Ac yn y diwed,
17 dygyaw a wnaethant. "Dioer," heb y Manawydan,
18 "ny bydwn ual hynn. Kyrchwn Loygyr, a cheisswn
19 greft y cafom yn ymborth."
20 Kyrchu Lloygyr a orugant, a dyuot hyt yn Henford,
21 a chymryt arnunt gwneuthur kyfrwyeu. A dechreu a
22 wnaeth ef Uanawydan llunyaw corueu, ac eu lliwaw ar y
23 wed y guelsei gan Lassar Llaes Gygnwyt a chalch llassar,
24 a gwneuthur calch lassar racdaw, ual y gwnathoed y
25 gwr arall. Ac wrth hynny y gelwir etwa Calch Llassar,
26 am y wneuthur o Lassar Llaes Gygnwyt. Ac o'r gueith
27 hwnnw, tra<ms. p. 66>geffit gan Uanawydan, ny phrynit
1 gan gyfrwyd dros wyneb Henford, na choryf, na chyfrwy,
2 ac yny adnabu pob un o'r kyfrwydyon y uot yn colli o'y
3 henill, ac ny frynit dim ganthunt, onyt guedy na cheffit
4 gan Uanawydan. Ac yn hynny, ymgynullaw y gyt o
5 honunt, a duunaw ar y lad ef a'y gedymdeith. Ac yn
6 hynny rybud a gawssont wynteu, a chymryt kynghor
7 am adaw y dref.
8 "E rof i a Duw," heb y Pryderi, "ni chynghoraf i
9 adaw y dref, namyn llad y tayogeu racco." "Nac ef,"
10 heb y Manawydan, "bei ymladem ni ac wyntwy, clot
11 drwc uydei arnam, ac yn carcharu a wneit. Ys guell
12 in," heb ef, "kyrchu tref arall e ymossymdeithaw yndi."
13 Ac yna kyrchu dinas arall a wnaethant yll pedwar.
14 "Pa geluydyt," heb y Pryderi, "a gymerwn ni arnam?"
15 "Gwnawn taryaneu," heb y Manawydan. "A wdom
16 ninheu dim y wrth hynny?" heb y Pryderi. "Ni a'y
17 prouwn," heb ynteu. Dechreu gwneuthur gueith y
18 taryaneu, eu llunyaw ar weith taryaneu da welsynt, a
19 dodi y lliw a dodyssynt ar y kyfrwyeu arnunt.
20 A'r gweith hwnnw a lwydwys racdunt, hyt na phrynit
21 taryan yn yr holl dref, onyt guedy na cheffit ganthunt
22 wy. Kyflym oed y gueith wynteu, a diuessur a w-<ms. p. 67>
23 neynt ac yuelly y buant yny dygywys yw kytdrefwyr racdunt,
24 ac yny duunyssant ar geissaw eu llad. Rybud a doeth
25 udunt wynteu; a chlybot bot y gwyr ac y bryt ar eu
26 dienydyaw.
27 "Pryderi," heb y Manawydan, "y mae y gwyr hynn
28 yn mynnu yn diuetha." "Ny chymerwn ninhei
1 tayogeu hynny. Awn adanunt a lladwn." "Nac ef,"
2 heb ynteu, "Casswallawn a glywei hynny, a'e wyr, a
3 rewin uydem. Kyrchu tref arall a wnawn." Vynt a
4 doethant y dref arall.
5 "Pa geluydyt yd awni wrthi?" heb y Manawydan.
6 "Yr honn y mynnych, o'r a wdam," heb y Pryderi.
7 "Nac ef," heb ynteu, "gwnawn grydyaeth. Ni byd o
8 galhon gan grydyon nac ymlad a ni nac ymwarauun."
9 "Ny wnn i dim y wrth honno," heb y Pryderi. "Mi a'y
10 gwn," heb y Manawydan, "a mi a dyscaf it wniaw; ac
11 nit ymyrrwn ar gyweiraw lledyr, namyn y brynu yn
12 barawt, a gwneuthur yn gueith ohonaw." Ac yna dechreu
13 prynu y cordwal teccaf a gauas yn y dref, ac amgen
14 ledyr no hwnnw ny phrynei ef, eithyr lledyr guadneu.
15 A dechreu a wnaeth ymgedymdeithassu a'r eurych goreu
16 yn y dref, a pheri guaegeu y'r eskidyeu, ac euraw y
17 guaegeu, a synnyaw e hun ar hynny yny gwybu. Ac
18 o'r achaws hwnnw, y gelwit ef yn tryded<ms. p. 68>eurgryd.
19 Tra geffit gantaw ef, nac eskit, na hossan, ny
20 phrynit dim gan gryd yn yr holl dref. Sef a wnaeth y
21 crydyon, adnabot bot eu hennill yn pallu udunt, canys
22 ual y llunyei Uanawydan y gueith, y gwniei Pryderi.
23 Dyuot y crydyon, a chymryt kynghor; sef a gausant yn
24 eu kynghor, duunaw ar eu llad. "Pryderi," heb y Manawydan,"y
25 mae y guyr yn mynnu an llad." "Pam y kymerwn
26 ninheu
27 "namyn eu llad oll?" "Nac ef," heb y Manawydan, "nyt
1 ymladwn ac wynt, ac ny bydwn yn Lloygyr ballach.
2 Kyrchwn parth a Dyuet, ac awn y hedrych."
3 Byhyt bynnac y buant ar y fford, wynt a doethant y
4 Dyuet, ac Arberth a gyrchyssant. A llad tan a wnaethant,
5 a dechreu ymborth, a hela, a threulaw mis yuelly, a
6 chynnull eu cwn attunt, a hela, a bot yuelly yno ulwydyn.
7 A boregueith, kyuodi Pryderi a Manawydan y hela;
8 a chyweiraw eu cwn, a mynet odieithyr y llys. Sef a
9 wnaeth rei o'e cwn, kerdet o'e blaen, a mynet y berth
10 uechan oed gyr eu llaw. Ac y gyt ac yd aant y'r berth,
11 kilyaw y gyflym, a cheginwrych mawr aruthyr ganthunt,
12 ac ymchwelut at y guyr. "Nessawn," heb y Pryderi,
13 "parth a'r berth, y edrych beth yssyd yndi." Nessau
14 <ms. p. 69>pirth a'r berth. Pan nessaant, llyma uaed coed claerwynn
15 yn kyuodi o'r berth; sef a oruc y cwn, o hyder y
16 guyr, ruthraw idaw. Sef a wnaeth ynteu, adaw y berth, a
17 chilyaw dalym y wrth y guyr. Ac yny uei agos y guyr
18 idaw, kyuarth a rodei y'r cwn, heb gilyaw yrdhunt: a
19 phan ynghei y guyr, y kilyei eilweith, ac y torrei gyuarth.
20 Ac yn ol y baed y kerdassant, yny welynt gaer uawr
21 aruchel, a gueith newyd arnei, yn lle ny welsynt na maen,
22 na gueith eiryoet; a'r baed yn kyrchu yr gaer yn uuan,
23 a'r cwn yn y ol. A guedy mynet y baed a'r cwn y'r gaer,
24 ryuedu a wnaethant welet y gaer yn y lle ny welsynt
25 eiryoet weith kyn no hynny, ac o ben yr orssed edrych a
26 wnaethant, ac ymwarandaw a'r cwn.
27 Pa hyt bynnac y bydynt yuelly, ny chlywynt un o'r
28 cwn na dim y wrthunt. "Arglwyd," heb y Pryderi, "mi
1 a af y'r gaer, y geissaw chwedleu y wrth y cwn." "Dioer,"
2 heb ynteu, "nyt da dy gynghor uynet y'r gaer, [Ny
3 welsam ni y gaer] honn yma eiryoet. Ac o gwney
4 uygkynghor i nyt ey idi. A'r neb a dodes hut ar y wlat,
5 a beris bot y gaer yma." "Dioer," heb y Pryderi, "ny
6 madeuaf i uyg kwn." Pa gynghor bynnac a gaffei ef y gan
7 Uanawydan, y gaer a gyrchwys ef. Pan doeth y'r gaer, na
8 dyn, na mil,<ms. p. 70>na'r baed, na'r cwn, na thy, nac anhed, ny
9 welei yn y gaer. Ef a welei, ual am gymherued llawr y
10 gaer, fynnawn a gueith o uaen marmor yn y chylch. Ac
11 ar lann y fynnawn, cawg [eur en rwymedic urth bedeir
12 cadwyn, a hynny] uchbenn llech o uaen marmor, a'r cadwyneu
13 yn kyrchu yr awyr; a diben ny welei arnunt.
14 Gorawenu a wnaeth ynteu wrth decket yr eur, a dahet
15 gueith y cawc; a dyuot a wnaeth yn yd oed y cawc, ac
16 ymauael ac ef. Ac y gyt ac yd ymeueil a'r cawc, glynu
17 y dwylaw wrth y cawc, a'y draet wrth y llech yd oed yn
18 seuyll arnei, a dwyn y lyueryd
19 dywedut un geir. A seuyll a wnaeth yuelly.
20 A'e aros ynteu a wnaeth Manawydan hyt parth a
21 diwed y dyd. A phrynhawn byrr, guedy bot yn diheu
22 gantaw ef na chaei chwedleu y wrth Pryderi nac y wrth
23 y cwn, dyuot a oruc parth a'r llys. Pan daw y mywn, sef
24 a wnaeth Riannon, edrych arnaw. "Mae," heb hi, "dy
25 gedymdeith di, a'th cwn?" "Llyma," heb ynteu, "uyg
26 kyfranc," a'e datcanu oll. "Dioer," heb y Riannon, "ys
27 drwc a gedymdeith uuosti, ac ys da a gedymdeith a golleisti."
1 A chan y geir hwnnw mynet allan, ac y traws y
2 managassei ef uot y gwr a'r gaer, kyrchu a wnaeth
3 hitheu.
4 <ms. p. 71>Porth y gaer a welas yn agoret; ny bu argel
5 arnei. Ac y mywn y doeth, ac y gyt ac y doeth, arganuot
6 Pryderi yn ymauael a'r cawc, a dyuot attaw. "Och, uy
7 Arglwyd," heb hi, "beth a wney di yma?" Ac ymauael
8 a'r cawc y gyt ac ef. Ac y gyt ac yd ymeueil, glynu y
9 dwylaw hitheu wrth y cawc, a'y deutroet wrth y llech,
10 hyt na allei hitheu dywedut un geir. Ac ar hynny, gyt
11 ac y bu nos, llyma dwryf arnunt, a chawat o nywl, a
12 chan hynny difflannu y gaer, ac e ymdeith ac wynteu.
13 Pann welas Kicua, uerch Gwyn Gloew, gwreic
14 Pryderi, nat oed yn y llys namyn hi a Manawydan,
15 drygyruerth a wnaeth hyt nat oed well genti y byw
16 no'y marw. Sef a wnaeth Manawydan, edrych ar hynny.
17 "Dioer," heb ef, "cam yd wyt arnaw, os rac uy ouyn i
18 y drygyruerthy di. Mi a rodaf Duw y uach it, na weleisti
19 gedymdeith gywirach noc y keffy di ui, tra uynho Duw
20 it uot uelly. Y rof a Duw, bei et uwni yn dechreu uy
21 ieuengtit, mi a gadwn gywirdeb wrth Pryderi, ac yrot
22 titheu mi a'y cadwn; ac na uit un ouyn arnat," heb ef.
23 "E rof a Duw," heb ef, "titheu a gey y gedymdeithas a
24 uynych y genhyf i, herwyd uyg gallu i,<ms. p. 72>tra welho
25 Duw yn bot yn y dihirwch hwnn a'r goual." "Duw a
26 dalho it; hynny a debywn i." Ac yna kymryt
27 ac ehouyndra
28 "Ie, eneit," heb y Manawydan, "nyt kyfle yni
1 trigyaw yma. Yn cwn a gollyssam, ac ymborth ny
2 allwn. Kyrchwn Loegyr. Hawssaf yw in ymborth
3 yno." "Yn llawen, Arglwyd," heb hi, "a ni a wnawn
4 hynny." Y gyt y kerdyssant parth a Lloygyr.
5 "Arglwyd," heb hi, "pa greft a gymery di arnat?
6 Kymer un lanweith." "Ny chymeraf i," heb ef,
7 "namyn crydyaeth, ual y gwneuthum gynt." "Arglwyd,"
8 heb hi, "nyt hoff honno y glanet y wr kygynhilet,
9 kyuurd a thydi." "Wrth honno yd af ui," heb ef.
10 Dechreu y geluydyt a wnaeth, a chyweiraw y weith
11 o'r cordwal teccaf a gauas yn y dref. Ac ual y dechreussant
12 yn lle arall, dechreu gvaegeu y'r eskidyeu o
13 waegeu eureit, yny oed ouer a man gueith holl grydyon
14 y dref y wrth yr eidaw ef e hun. A thra geffit y gantaw,
15 nac eskit, na hossan, ni phrynit y gan ereill dim.
16 A blwydyn
17 crydyon yn dala kynuigen a chynghoruyn wrthaw, ac yny
18 doeth rybudyeu idaw,<ms. p. 73>a menegi uot y crydyon wedy
19 duunaw ar y lad. "Arglwyd," heb y Kicua, "pam y
20 diodeuir hynn gan y tayogeu?" "Nac ef," heb ynteu,
21 "ni a aem eissoes y Dyuet."
22 Dyuet a gyrchyssant. Sef a oruc Manawydan, pan
23 gychwynnwys parth a Dyuet, dwyn beich o wenith
24 gantaw, a chyrohu Arberth, a chyuanhedu yno. Ac nit
25 oed dim digriuach gantaw no gwelet Arberth a'r tirogaeth
26 y buassei yn hela, ef a Pryderi, a Riannon gyt ac
27 wynt.
1 Dechreu a wnaeth kyneuinaw a hela pyscawt, a llydnot
2 ar eu gual yno. Ac yn ol hynny dechreu ryuoryaw,
3 ac yn ol hynny, heu groft, a'r eil a'r trydyd. Ac nachaf
4 y guenith yn kyuot yn oreu yn y byt, a'e deir grofd yn
5 llwydaw yn un dwf, hyt na welsei dyn wenith tegach noc
6 ef. Treulaw amseroed y ulwydyn a wnaeth. Nachaf
7 y kynhaeaf yn dyuot; ac y edrych un o'e rofdeu y doeth.
8 Nachaf honno yn aeduet. "Mi a uynhaf uedi honn
9 auory," heb ef. Dyuot tra y gefyn y nos honno hyt yn
10 Arberth.
11 E bore glas dranoeth, dyuot y uynnu medi y grofd.
12 Pan daw, nyt oed namyn y calaf yn llwm, wedy daruot
13 toni pob un yn y doi y
14 e ymdeith a'r tewys yn hollawl, ac adaw y calaf yno yn
15 llwm. Ryuedu hynny yn uawr<ms. p. 74>a wnaeth, a dyuot y
16 edrych grofd arall; nachaf honno yn aeduet. "Dioer,"
17 heb ef, "mi a uynhaf medi honn auory." A thrannoeth
18 dyuot ar uedwl medi honno. A phan daw, nit oed dim
19 namyn y calaf llwm. "Oy a Arglwyd Duw," heb ef,
20 "pwy yssyd yn gorfen uyn diua i? A mi a'e gwnn:
21 y neb a dechreuis uyn diua, yssyd yn y orffen, ac a
22 diuawys y wlad gyt a mi."
23 Dyuot y edrych y tryded grofd. Pan doeth, ny
24 welsei dyn wenith degach, a hwnnw yn aeduet. "Meuyl
25 y mi," heb ef, "ony wylaf i heno. A duc yr yt arall a
26 daw y dwyn hwnn, a mi a wybydaf beth yw." A
27 chymryt y arueu a wnaeth, a dechreu gwylat y grofd.
1 A menegi a wnaeth y Kicua hynny oll. "Ie," heb hi,
2 "beth yssyd y'th uryt ti?" "Mi a wylaf y grofd heno,"
3 heb ef. E wylat y grofd yd aeth. Ac ual y byd am
4 hanner nos yuelly, nachaf twryf mwyhaf yn y byt; sef
5 a wnaeth ynteu edrych. Llyma eliwlu y byd o lygot;
6 a chyfrif na messur ny ellit ar hynny. Ac ny wydat yny
7 uyd y llygot yn guan adan y grofd, a phob un yn drigyaw
8 ar hyt y kyleuyn, ac yn y estwng genti, ac yn torri y
9 dywyssen
10 y calaf yno. Ac ni wydyat ef uot un keleuyn yno ny bei
11 lygoden am pob un. Ac a gymerynt eu hynt racdunt ar
12 tywys
13 ymplith y llygot a wnaeth. A mwy noc ar y gwydbet, neu
14 yr adar yn yr awyr, ny chytdremei ef ar yr un ohonunt
15 wy; eithyr un a welei yn amdrom, ual y tebygei na allei
16 un pedestric. Yn ol honno y kerdwys ef, a'y dala a
17 wnaeth, a'y dodi a wnaeth yn y uanec, ac a llinin rwymaw
18 geneu y uanec, a'y chadw gantaw, a chyrchu y llys.
19 Dyuot y'r ystauell yn yd oed Kicua, a goleuhau y
20 tan, ac wrth y llinyn dodi y uanec ar y wanas a oruc.
21 "Beth yssyd yna, Arglwyd?" heb y Kicua. "Lleidyr,"
22 heb ynteu, "a geueis yn lledratta arnaf." "Pa ryw
23 leidyr, Arglwyd, a allut ti y dodi y'th uanec?" heb hi.
24 "Llyma oll," heb ynteu, a menegi ual yr lygryssit ac y
25 diuwynyssit y grofdeu idaw, ac ual y doethant y llygot
26 idaw y'r grofd diwethaf yn y wyd. "Ac un ohonunt
27 oed amdrom, ac a deleis, ac yssyd yn y uanec, ac a grogaf
1 inheu auory. Ac ym kyffes y Duw, bei as caffwn oll, mi
2 a'y crogwn." "Arglwyd," heb hi, "diryued oed hynny.
3 Ac eisswys anwymp yw guelet gwr kyuurd, kymoned,
4 a thidi, yn crogi y ryw bryf hwnnw. A phei gwnelut iawn,
5 nyt ymyrrut yn y pryf, namyn y ellwng e ymdeith."
6 "Meuyl ymi," heb ef, "bei as caffwnn i
7 crogwn:<ms. p. 76>ac a geueis, mi a'e crogaf." "Ie, Arglwyd,"
8 heb hi, "nit oes achaws y mi y uot yn borth y'r pryf
9 hwnnw, namyn goglyt ansyberwyt y ti. A gwna ditheu
10 dy ewyllus, Arglwyd." "Bei gwypwn inheu defnyd yn
11 y byt y dylyut titheu bot yn borth idaw ef, mi a uydwn
12 wrth dy gynghor am danaw; a chanys gwnn, Arglwydes,
13 medwl yw genhyf y diuetha." "A gwna ditheu yn
14 llawen," heb hi.
15 Ac yna y kyrchwys ef Orssed Arberth, a'r llygoden
16 gantaw, a sengi dwy forch yn y lle uchaf ar yr orssed.
17 Ac ual y byd yuelly, llyma y guelei yscolheic yn dyuot
18 attaw, a hen dillat hydreul, tlawt amdanaw. Ac neut
19 oed seith mlyned kyn no hynny, yr pan welsei ef na dyn,
20 na mil, eithyr y pedwardyn y buassynt y gyt, yny golles
21 y deu. "Arglwyd," heb yr yscolheic, "dyd da it."
22 "Duw a rodo da it, a grayssaw wrthyt," heb ef. "Pan
23 doy di, yr yscolheic?" heb ef. "Pan doaf, Arglwyd, o
24 Loygyr o ganu. A phaham y gouynhy di, Arglwyd?"
25 heb ef. "Na weleis," heb ef, "neut seith mlyned, un
26 dyn yma, onyt pedwar dyn diholedic, a thitheu yr awr
27 honn." "Ie, Arglwyd, mynet," heb ef, "drwy y wlat
1 honn yd wyf inheu yr awr honn, parth a'm gwlat uy hun.
2 A pha ryw weith yd wyte yndaw, Arglwyd?" "Crogi
3 lleidyr a geueis yn lledratta arnaf," heb ef. "Ba ryw
4 leidyr, Arglwyd?"<ms. p. 77>heb ef. "Pryf a welaf i'th law di
5 ual llygoden. A drwc y gueda y wr kyuurd a thidi
6 ymodi pryf kyfryw a hwnnw. Gellwg e ymdeith ef."
7 "Na ellynghaf, y rof a Duw," heb ynteu. "Yn lledratta
8 y keueis ef, a chyfreith lleidyr a wnaf inheu ac ef, y
9 grogi." "Arglwyd," heb ynteu, "rac guelet gwr kyuurd
10 a thidi yn y gueith hwnnw, punt a geueis i o gardotta,
11 mi a'e rodaf it, a gellwng y pryf hwnnw e ymdeith."
12 "Nac ellynghaf, y rof a Duw, nys guerthaf." "Gwna di,
13 Arglwyd," heb ef. "Ony bei hagyr guelet gwr kyuurd a
14 thidi yn teimlaw y ryw bryf a hwnnw, ny'm torei."
15 Ac e ymdeith yd aeth yr yscolheic.
16 Val y byd ynteu yn dodi y dulath yn y fyrch, nachaf
17 offeirat yn dyuot ataw, ar uarch yn gyweir. "Arglwyd,
18 dyd da it," heb ef. "Duw a ro da it," heb y Manawydan,
19 "a'th uendith." "Bendith Duw it. A pha ryw weith,
20 Arglwyd, yd wyd yn y wneuthur?" "Crogi lleidyr a
21 geueis yn lledratta arnaf," heb ef. "Pa ryw leidyr,
22 Arglwyd?" heb ef. "Pryf," heb ynteu, "ar ansawd
23 llygoden, a lledratta a wnaeth arnaf, a dihenyd lleidyr a
24 wnaf inheu arnaw ef." "Arglwyd, rac dy welet yn
25 ymodi y pryf hwnnw, mi a'y prynaf. Ellwng ef." "Y
26 Duw y dygaf uyghyffes, na'y werthu, na'y ollwng nas
27 gwnaf i." "Guir yw, Arglwyd, nyt guerth arnaw ef
28 dim.<ms. p. 78>Rac dy welet ti yn ymhalogi wrth y pryf
1 hwnnw, mi a rodaf it deir punt, a gollwng ef e ymdeith,"
2 "Na uynhaf, y rof a Duw," heb ynteu, "un guerth, namyn
3 yr hwnn a dyly, y grogi." "En llawen, Arglwyd, gwna
4 dy uympwy." E ymdeith yd aeth yr offeirat. Sef a
5 wnaeth ynteu, maglu y llinin am uynwgyl y llygoden.
6 Ac ual yd oed yn y dyrchauael, llyma rwtter escob a
7 welei a'y swmereu a'y yniuer; a'r escop e hun yn kyrchu
8 parth ac attaw. Sef a wnaeth ynteu, gohir ar y weith.
9 "Arglwyd escop," heb ef, "dy uendith." "Duw a rodo
10 y uendith it," heb ef. "Pa ryw weith yd wyt ty yndaw?"
11 "Crogi lleidyr a geueis yn lledratta arnaf," heb ef.
12 "Ponyt llygoden," heb ynteu, "a welaf i y'th law di?"
13 "Ie," heb ynteu, "a lleidyr uu hi arnaf i." "Ie," heb
14 ynteu, "can doethwyf i ar diuetha y pryf hwnnw, mi a'e
15 prynaf y genhyt. Mi a rodaf seith punt it yrdaw, a rac
16 guelet gwr kyuurd a thi yn diuetha pryf mor dielw
17 a hwnnw, gollwng ef, a'r da a geffy ditheu." "Na
18 ellynghaf, y rof a Duw," heb ynteu. "Kanys gollyngy
19 yr hynny, mi a rodaf it pedeirpunt ar ugeint o aryant
20 parawt, a gellwng ef." "Na ellynghaf, dygaf y Duw
21 uyghyffes, yr y gymeint arall," heb ef. "Canys collyghy
22 yr hynny," heb ef, "mi a rodaf it a wely o uarch yn y
23 <ms. p. 79>maes hwnn, a seith swmer yssyd yma, ar y seith
24 meirch y maent arnunt." "Na uynhaf, y rof a Duw,"
25 heb ynteu. "Cany mynny hynny, gwna y guerth."
26 "Gwnaf," heb ynteu, "rydhau Riannon a Phryderi." "Ti
27 a gehy hynny." "Na uynhaf, y rof a Duw." "Beth a
28 uynhy ditheu?" "Guaret yr hut a'r lledrith y ar seith
1 cantref Dyuet." "Ti a geffy hynny heuyt, a gellwng y
2 llygoden." "Na ellyngaf, y rof a Duw," heb ef. "Gwybot
3 a uynhaf pwy yw y llygoden." "Wy gwreic i yw hi, a
4 phy ny bei hynny nys dillyngwn." "Pa gyffuryf y doeth
5 hi attaf i?" "Y herwa," heb ynteu. "Miui yw Llwyt
6 uab Kil Coet, a mi a dodeis yr hut ar seith cantref Dyuet,
7 ac y dial Guawl uab Clut, o gedymdeithas ac ef y dodeis
8 i yr hut; ac ar Pryderi y dieleis i guare broch yghot a
9 Guawl uab Clut, pan y gwnaeth Pwyll Penn Annwn;
10 a hynny yn Llys Eueyd Hen y gwnaeth o aghynghor.
11 A guedy clybot dy uot yn kyuanhedu y wlat, y doeth
12 uyn teulu attaf inheu, ac y erchi eu rithyaw yn llygot
13 y diua dy yd, ac y doethant y nos gyntaf uyn teulu e
14 hunein. A'r eil nos y doethant heuyt, ac y diuayssant y
15 dwy grofd. A'r tryded nos y doeth uy gwreic a gwraged
16 y llys attaf, y erchi im eu rithaw, ac y<ms. p. 80>ritheis inheu.
17 A beichawc oed hi. A phy na bei ueichawc hi, nis
18 gordiwedut ti. A chanys bu, a'y dala hi, mi a rodaf
19 Pryderi a Riannon it, ac a waredaf yr hut a'r lletrith y ar
20 Dyuet. Minheu a uenegeis yti pwy yw hi, a gellwng hi."
21 "Na ellynghaf, y rof a Duw," heb ef. "Beth a uynny
22 ditheu?" heb ef. "Llyna," heb ynteu, "a uynhaf, na
23 bo hut uyth ar seith cantref Dyuet, ac na dotter." "Ti
24 a geffy hynny," heb ef, "a gellwng hi." "Na ellynghaf,
25 y rof a Duw," heb ef. "Beth a uynny ditheu?" heb ef.
26 "Llyna," heb ef, "a uynhaf, na bo ymdiala ar Pryderi a
27 Riannon, nac arnaf inheu, uyth am hynn." "Hynny oll a
28 geffy. A dioer, da y medreist," heb ef. "Bei na metrut
1 hynny," heb ef, "ef a doy am dy benn cwbyl o'r gouut."
2 "Ie," heb ynteu, "rac hynny y nodeis inheu." "A rytha
3 weithon wy gwreic im." "Na rydhaaf, y rof a Duw,
4 yny welwyf Pryderi a Riannon yn ryd gyt a mi." "Wely di
5 yma wynteu yn dyuot," heb ef.
6 Ar hynny, llyma Pryderi a Riannon. Kyuodi a oruc
7 ynteu yn eu herbyn, a'y graessawu, ac eisted y gyt. "A
8 wrda, rytha uy ngwreic im weithon, ac neu ry geueist
9 gwbyl o'r a nodeist." "Ellynghaf yn llawen," heb ef.
10 Ac yna y gollwng hi, ac y trewis ynteu hi a hudlath,
11 ac y datrithwys hi yn wreigyang deccaf
12 "Edrych i'th<ms. p. 81>gylch ar y wlat," heb ef, "a thi a
13 wely yr holl anhedeu, a'r kyuanhed, ual y buant oreu."
14 Ac yna kyuodi a oruc ynteu ac edrych. A phan edrych,
15 ef a welei yr holl wlat yn gyuanhed, ac yn gyweir o'y holl
16 alauoed a'y hanedeu.
17 "Pa ryw wassanaeth y bu Pryderi a Riannon
18 yndaw?" heb ef. "Pryderi a uydei ac yrd porth uy
19 llys i am y uynwgyl, a Riannon a uydei a mynweireu yr
20 essynn, wedy bydyn yn kywein gueir, am y mynwgyl
21 hitheu. Ac yuelly y bu eu carchar."
22 Ac o achaws y carchar hwnnw, y gelwit y kyuarwydyt
23 hwnnw, Mabinogi Mynweir a Mynord. Ac yuelly
24 y teruyna y geing honn yma o'r Mabinogy.
Math uab Mathonwy
1 MATH uab Mathonwy oed arglwyd ar Wyned, a
2 Pryderi uab Pwyll oed arglwyd ar un cantref
3 ar ugeint yn y Deheu. Sef oed y rei hynny,
4 seith cantref Dyuet, a seith Morgannhwc, a phedwar
5 Kyredigyawn, a thri Ystrat Tywi. Ac yn yr oes honno
6 Math uab Mathonwy ny bydei uyw, namyn tra uei y
7 deudroet ymlyc croth morwyn, onyt kynwryf ryuel a'y
8 llesteirei. Sef oed yn uorwyn gyt ac ef, Goewin uerch
9 Pebin o Dol Pebin yn Aruon. A honno teccaf morwyn
10 oed yn y hoes o'r a wydit yno. Ac ynteu yg Kaer Dathyl
11 yn Aruon yd oed y wasta-<ms. p. 82>trwyd. Ac ny allei gylchu y
12 wlat, namyn Giluathwy uab Don, [a Gwydyon] uab Don,
13 y nyeint
14 gylchu y wlat drostaw.
15 A'r uorwyn oed gyt a Math yn wastat; ac ynteu
16 Giluaethwy uab Don a dodes y uryt ar y uorwyn, a'y
17 charu hyt na wydat beth a wnay ymdanei. Ac nachaf y
18 liw a'y wed a'y ansawd yn atueilaw o'y charyat, hyt
19 nat oed hawd y adnabot.
20 Sef a wnaeth Guydyon y urawd, synnyeit dydgweith
21 arnaw yn graf. "A was," heb ef, "pa derw ytti?" "Pa
22 ham?" heb ynteu. "Beth a wely di arnaf i?" "Gwelaf
1 arnat," heb ef, "colli dy bryt a'th liw, a pha deryw yti?"
2 "Arglwyd urawt," heb ef, "yr hynn a deryw ymi ny
3 frwytha ymi y adef y neb." "Beth yw hynny, eneit?"
4 heb ef. "Ti a wdost," heb ynteu, "kynedyf Math uab
5 Mathonwy; ba hustyng bynnac, yr y uychanet, o'r a uo
6 y rwng dynnyon, o ry kyuarfo y guynt ac ef, ef a'y
7 guybyd." "Ie," heb y Guydyon, "taw di bellach. Mi a
8 wnn dy uedwl di; caru Goewin yd wyt ti." Sef a wnaeth
9 ynteu yna, pan wybu ef adnabot o'y urawt y uedwl,
10 dodi ucheneit dromhaf yn y byt. "Taw, eneit, a'th
11 ucheneidaw," heb ef, "nyt o hynny y goruydir. Minheu
12 a baraf," heb ef, "cany ellir heb hynny, dygyuori
13 Gwyned<ms. p. 83>a Phowys a Deheubarth y geissaw y
14 uorwyn; a byd lawen di, a mi a'y paraf yt."
15 Ac ar hynny at Uath uab Mathonwy yd aethant
16 wy. "Arglwyd," heb y Guydyon, "mi a gigleu dyuot y'r
17 Deheu y ryw bryuet ni doeth y'r ynys honn eiroet."
18 "Pwy eu henw wy?" heb ef. "Hobeu, Arglwyd," "Pa
19 ryw aniueileit yw y rei hynny?" "Aniueileit bychein,
20 guell eu kic no chic eidon. Bychein ynt wynteu; ac y
21 maent yn symudaw enweu. Moch y gelwir weithon."
22 "Pwy biewynt wy?" "Pryderi uab Pwyll, yd anuonet
23 idaw o Annwn y gan Arawn Urenhin Annwn." (Ac etwa
24 yd ys yn cadw o'r enw hwnnw hanner hwch, hanner
25 hob).
26 "Ie," heb ynteu, "ba furuf y keffir wy y gantaw ef?"
27 "Mi a af ar uyn deudecuet, yn rith beird, Arglwyd, y
28 erchi y moch." "Ef a ry eill ych necau," heb ynteu.
1 "Nit drwc uyn trawscwyd i, Arglwyd," heb ef. "Ny doaf
2 i heb y moch." "En llawen," heb ynteu, "kerda ragot."
3 Ef a aeth, a Giluathwy, a deguyr gyt ac wynt, hyt
4 yg Keredigyawn
5 awrhon; yd oed llys yno y Pryderi; ac yn rith beird y
6 doethant ymywn. Llawen uuant wrthunt. Ar neillaw
7 Pryderi y gossodet Guydyon y nos honno. "Ie," heb y
8 Pryderi, "da yw<ms. p. 84>genhym ni cahel kyuarwydyt gan
9 rei o'r gwreinc racco." "Moes yw genhym ni, Arglwyd,"
10 heb y Guydyon, "y nos gyntaf y delher at wr mawr,
11 dywedut o'r penkerd. Mi a dywedaf gyuarwydyd yn
12 llawen."
13 Ynteu Wydyon goreu kyuarwyd yn y byt oed. A'r
14 nos honno, didanu y llys a wnaeth ar ymdidaneu digrif a
15 chyuarwydyt, yny oed hoff gan paub o'r llys, ac yn
16 didan gan Pryderi ymdidan ac ef.
17 Ac ar diwed hynny, "Arglwyd," heb ef, "ae guell y
18 gwna neb uy neges i wrthyt ti no mi uu hun?" "Na
19 well," heb ynteu. "Tauawt lawn da yw y teu di."
20 "Llyna uy neges inheu, Arglwyd, ymadolwyn a thidi am
21 yr aniueileit a anuonet it o Annwuyn." "Ie," heb ynteu,
22 "hawssaf yn y byt oed hynny by na bei ammot y rof a'm
23 gwlat amdanunt; sef yw hynny, nat elont y genhyf yny
24 hilyont eu deu kymeint yn y wlat." "Arglwyd," heb
25 ynteu, "minheu a allaf dy rydhau ditheu o'r geireu
26 hynny. Sef ual y gallaf, na dyro im y moch heno, ac [na]
1 nacaha ui ohonunt. Auory minheu a dangossaf gyfnewit
2 amdanunt wy."
3 A'r nos honno yd aethont ef a'y gedymdeithon y'r
4 lletty ar y kynghor. "A wyr," heb ef, "ny chawni y
5 moch oc eu herchi."<ms. p. 85>"Ie," heb wynte, "pa drawscwyd
6 y keir wynteu?" "Mi a baraf eu cael," heb y
7 Guydyon. Ac yna yd aeth ef yn y geluydodeu, ac y
8 dechreuawt dangos y hut, ac yd hudwys deudec emys, a
9 deudec milgi bronwyn du pob un o honunt, a deudec
10 torch, a deudec kynillyuan arnunt, a neb o'r a'[e] guelei,
11 ni wydat na bydynt eur; a deudec kyfrwy ar y meirch,
12 ac am pob lle y dylyei hayarn uot arnunt, y bydei
13 gwbyl o eur; a'r frwyneu yn un weith a hynny.
14 A'r meirch ac a'r cwn y doeth ef at Prydery. "Dyd
15 da it, Arglwyd," heb ef. "Duw a ro da it," heb ef, "a
16 graessaw wrthyt." "Arglwyd," heb ef, "llyma rydit yti
17 am y geir a dywedeist neithwyr am y moch, nas rodut
18 ac nas guerthut. Titheu a elly gyfnewit yr a uo guell.
19 Minheu a rodaf y deudeg meirch hynn ual y maent yn
20 gyueir, ac eu kyfrwyeu, ac eu frwyneu, a'r deudec milgi
21 ac eu torcheu ac eu kynllyuaneu, ual y guely, a'r deudec
22 taryan eureit a wely di racco." (Y rei hynny a rithassei
23 ef o'r madalch). "Ie," heb ynteu, "ni a gymerwn
24 gynghor." Sef a gaussant yn y kynghor, rodi y moch e
25 Wydyon, a chymryt y meirch a'r cwn a'r taryaneu y
26 gantaw ynteu.
27 Ac yna y kymeryssant wy ganheat, ac y dechreussant
28 gerdet a'r moch. "A geimeit," heb y Guydyon,
1 <ms. p. 86>"reit yw in gerdet yn bryssur. Ny phara yr hut
2 namyn o'r pryt pwy gilyd." A'r nos honno y kerdyssant
3 hyt ygwarthaf Keredigyawn, y lle a elwir etwa o achaus
4 hynny Mochtref. A thrannoeth y kymeryssant eu hynt;
5 dros Elenit y doethant. A'r nos honno y buant y rwng
6 Keri ac Arwystli, yn y dref a elwir heuyt o achaus hynny
7 Mochtref. Ac odyna y kerdyssant racdunt, a'r nos honno
8 yd aethant hyt yg kymwt ym Powys, a elwir o'r ystyr
9 hwnnw heuyt Mochnant, ac yno y buant y nos honno.
10 Ac odynha y kerdyssant hyt yg cantref Ros, ac yno y
11 buant y nos honno y mywn y dref a elwir etwa Mochtref.
12 "Ha wyr," heb y Gwydyon, "ni a gyrchwn kedernit
13 Gwynet a'r aniueileit hynn. Yd ys yn lluydaw yn an
14 ol." Sef y kyrchyssant y dref uchaf o Arllechwoed, ac
15 yno gwneuthur creu y'r moch, ac o'r achaws hwnnw y
16 dodet Creuwryon ar y dref. Ac yna guedy gwneuthur
17 creu y'r moch y kyrchyssant ar Uath uab Mathonwy,
18 hyt yg Kaer Tathyl.
19 A phan doethant yno, yd oedit yn dygyuori y wlat.
20 "Pa chwedleu yssyd yma?" heb y Gwydyon. "Dygyuor,"
21 heb wy, "y mae Pryderi yn ych ol chwi un cantref ar
22 ugeint. Ryued uu hwyret y kerdyssawchi." "Mae yr aniueileit
23 yd aethawch yn eu hwysc?" heb y Math. "Maent
24 <ms. p. 87>guedy gwneuthur creu udunt yn y cantref arall
25 issot," heb y Guydyon. Ar hynny, llyma y clywynt yr
26 utkyrn a'r dygyuor yn y wlat. Ar hynny guiscaw a
27 wnaethant wynteu, a cherdet yny uydant ym Pennard yn
28 Aruon.
29 A'r nos honno yd ymhwelwys Gwydyon uab Don a
1 Chiluathwy y urawt, kyt yg Kaer Dathyl. Ac yguely
2 Math uab Mathonwy dodi Giluathwy a Goewyn uerch
3 Pebin y gyscu y gyt, a chymell y morynyon allan yn
4 amharchus, a chyscu genti o'y hanuod y nos honno.
5 Pan welsant y dyd drannoeth, kyrchu a wnaethant
6 parth a'r lle yd oed Math uab Mathonwy a'y lu. Pan
7 doethant, yd oed y guyr hynny yn mynet y gymryt
8 kynghor ba tu yd arhoynt Pryderi a guyr y Deheu. Ac
9 ar y kynghor y doethant wynteu. Sef a gaussant yn eu
10 kynghor, aros yg kedernit Gwyned yn Aruon. Ac
11 yghymherued y dwy uaynawr yd arhoed, Maynawr
12 Bennard a Maynawr Coet Alun.
13 A Phryderi a'y kyrchwys yno wynt; ac yno y bu y
14 gyfranc, ac y llas lladua uawr o pop parth, ac y bu reit
15 y wyr y Deheu enkil. Sef lle yd enkilyssant, hyt y Ue a
16 elwir etwa Nant Call; a hyt yno yd ymlidywyd, Ac yna
17 y bu yr ayrua diuessur
18 hyt y lle a elwir Dol Penmaen. Ac yna clymu a
19 wnaethant, a cheissaw ymdangneuedu, a gwystlaw a
20 wnaeth Pryderi ar y tangneued. Sef a wystlwys, Gwrgi
21 Guastra, ar y pedwyryd ar ugeint o ueibyon guyrda.
22 A guedy hynny, kerdet o honunt yn eu tangneued
23 hyt y Traeth Mawr; ac ual y gyt ac y doethant hyt y
24 Uelen Ryd y pedyt ny ellit eu reoli o ymsaethu, gyrru
25 kennadeu o Pryderi y erchi guahard y deulu, ac erchi
26 gadu y ryngtaw ef a Guydyon uab Don, canys ef a
27 baryssei hynny. At Math uab Mathonwy y doeth y
1 genhat. "Ie," heb y Math, "e rof a Duw, os da
2 gan Wydyon uab Don, mi a'e gadaf yn llawen. Ni chymellaf
3 inheu ar neb uynet e ymlad, dros wneuthur ohanam
4 ninheu an gallu." "Dioer," heb y kennadeu, "teg,
5 med Pryderi, oed y'r gwr a wnaeth hynn idaw ef o gam,
6 dodi y gorf yn erbyn y eidaw ynteu, a gadu y deu lu yn
7 segur." "Dygaf y Duw uyg kyffes," [heb y Guydyon],
8 "nat archaf i y wyr Gwyned ymlad drossof i, a minheu
9 uy hun yn cael ymlad a Phryderi. Mi a dodaf uyg korf
10 yn erbyn y eidaw yn llawen."
11 A hynny a anuonet at Pryderi. "Ie," heb y
12 Pryderi, "nit archaf inheu y neb gouyn uy iawn namyn
13 my hun." E gwyr hynny a neilltuwyt, ac a dechreuwyt
14 gwiscaw amdanunt, ac<ms. p. 89>ymlad a wnaethant. Ac o
15 nerth grym ac angerd, a hut a lledrith, Guydyon a oruu,
16 a Phryderi a las, ac y Maen Tyuyawc, uch y Uelen Ryd
17 y cladwyt, ac yno y may y ued.
18 Gwyr y Deheu a gerdassant ac argan truan ganthunt
19 parth ac eu gwlat, ac nit oed ryued; eu harglwyd a
20 gollyssynt. a llawer oc eu goreuguyr, ac eu meirch, ac
21 eu haruen can mwyaf.
22 Gwyr Gwyned a ymchweles dracheuyn yn llawen
23 orawenus. "Arglwyd," heb y Guydyon wrth Uath,
24 "ponyt oed iawn ynni ollwng eu dylyedauc y wyr y
25 Deheu, a wystlyssant in ar tangneued? Ac ny dylywn
26 y garcharu." "Rydhaer ynteu," heb y Math. A'r guas
27 hwnnw, a'r gwystlon oed gyt ac ef, a ellyngwyt yn ol
28 guyr y Deheu.
1 Enteu Math a gyrchwys Caer Tathyl. Giluaethwy
2 uab Don a'r teulu a uuassynt gyt ac ef, a gyrchyssant y
3 gylchaw Gwyned mal y gnotayssynt, a heb gyrchu y llys.
4 Enteu Uath a gyrchwys e ystauell, ac a beris kyweiraw
5 lle idaw y benelinyaw, ual y caei dodi y draet ym plyc
6 croth y uorwyn. "Arglwyd," heb y Goewyn, "keis
7 uorwyn a uo is dy draet weithon. Gwreic wyf i." "Pa
8 ystyr yw hynny?" "Kyrch, Arglwyd, a doeth am uym
9 penn, a hynny yn diargel, ac ny buum distaw inheu. Ny
10 bu yn y llys nys guypei. Sef a doeth, dy nyeint ueibon
11 dy chwaer,<ms. p. 90>Arglwyd, Gwydyon uab Don a Giluaethwy
12 uab Don. A threis arnaf a orugant a chywilyd
13 y titheu, a chyscu a wnaethpwyt genhyf, a hynny i'th
14 ystauell ac i'th wely." "Ie," heb ynteu, "yr hyn a allaf
15 i, [mi a'e gwnaf]. Mi a baraf iawn y ti yn gyntaf, ac
16 yn ol uy iawn y bydaf inheu. A thitheu," heb ef, "mi
17 a'th gymeraf yn wreic im, ac a rodaf uedyant uyg
18 kyuoeth i'th law ditheu."
19 Ac yn hynny ny doethant wy yng kyuyl y llys,
20 namyn trigyaw y gylchaw y wlat a wnaethant yny aeth
21 guahard udunt ar y bwyt a'y llyn. Yn gyntaf ny doethant
22 wy yn y gyuyl ef. Yna y doethant wynteu attaw ef.
23 "Arglwyd," heb wynt, "dyd da it." "Ie," heb ynteu,
24 "ay y wneuthur iawn ymi y doethauch chwi?"
25 "Arglwyd, i'th ewyllus yd ydym." "Bei uy ewyllwys
26 ny chollwn o wyr ac araeu a golleis. Vyg kywilyd ny
27 ellwch chwi y dalu y mi, heb angheu Pryderi. A chan
28 doethauch chwitheu y'm ewyllus inheu, mi a dechreuaf
29 boen arnawch."
1 Ac yna y kymerth e hutlath, ac y trewis Giluathwy
2 yny uyd daran ewic; ac achub y llall a wnaeth yn
3 gyflym, kyt mynhei dianc nys gallei, a'y taraw a'r un
4 hutlath yny uyd yn garw. "Canys ywch yn rwymedigaeth,
5 mi a wnaf ywch gerdet y gyt, a'ch bot yn
6 gymaredic, ac yn<ms. p. 91>un anyan a'r gwyduilot yd ywch yn
7 eu rith, ac yn yr amser y bo etiued udunt wy, y uot
8 ywchwitheu. A blwydyn y hediw, dowch yma ataf i."
9 Ym penn y ulwydyn o'r un dyd, llyma y clywei
10 odorun adan paret yr ystauell, a chyuarthua cwn y llys
11 am penn y godorun. "Edrych," heb ynteu, "beth yssyd
12 allan." "Arglwyd," heb un, "mi a edrycheis. Mae yna
13 carw, ac ewic, ac elein gyt ac wynt." Ac ar hynny,
14 kyuodi a oruc ynteu a dyuot allan. A phan doeth, sef y
15 guelei y trillydyn; sef trillydyn oedynt,
16 ac elein cryf. Sef a wnaeth, dyrchauael e hutlath. "Yr
17 hwnn a uu o honawch yn ewic yrllyned, bit uaed coed
18 yleni. A'r hwnn a uu garw o honawch yrllyned, bit
19 garnen eleni." Ac ar hynny, eu taraw a'r hutlath.
20 "Y mab hagen a gymeraf i, ac a baraf y ueithryn
21 a'y uedydyaw" Sef enw a dodet arnaw, Hydwn.
22 "Ewch chwitheu, a bydwch y lleill yn uaed coed, a'r
23 llall yn garnen coet. A'r anyan a uo y'r moch coet, bit
24 y chwitheu. A blwydyn y hediw bydwch yma ydan y
25 paret, ac ych etiued y gyt a chwi."
26 Ym penn y ulwydyn, llyma y clywyn kyuarthua cwn
27 dan paret yr ystauell, a dygyuor y llys y am hynny am
1 eu penn. Ar hynny, kyuodi a oruc [ynteu] a mynet allan.
2 A phan daw<ms. p. 92>allan, trillydyn a welei. Sef kyfryw
3 lydnot a welei, baed coed, a charnen coet, a chrynllwdyn
4 da y gyt ac wy. A breisc oed yn yr oet oed arnaw.
5 "Ie," heb ef, "hwnn a gymeraf i attaf, ac a baraf y
6 uedydyaw," - a'y daraw a'r hutlath, yny uyd yn uab
7 braswineu telediw. Sef enw a dodet ar hwnnw,
8 Hychdwn. "A chwitheu, yr un a uu baed coet o
9 honawch yrllyned, bit bleidast yleni, a'r hwn a uu
10 garnen yrllyned, bit uleid yleni." Ac ar hynny eu taraw
11 a'r hutlath, yny uydant bleid a bleidast. "Ac anyan yr
12 aniueileit yd ywch yn eu rith, bit y chwitheu. A bydwch
13 yma blwydyn y'r dyd hediw ydan y paret hwnn."
14 Yr un dyd ym penn y ulwydyn, llyma y clywei
15 dygyuor a chyuarthua dan paret yr ystauell. Ynteu a
16 gyuodes allan, a phan daw, llyma y guelei bleid, a bleidast,
17 a chrubothon cryf y gyt ac wynt. "Hwnn a
18 gymeraf i," heb ef, "ac a baraf y uedydyaw, ac y mae
19 y enw yn parawt. Sef yw hwnnw, Bleidwn. Y tri meib
20 yssyd y chwi, a'r tri hynny ynt: --
21 Tri meib Giluaethwy enwir,
22 Tri chenryssedat kywir,
23 Bleidwn, Hydwn, Hychdwn Hir."
24 Ac ar hynny, yn y taraw wynteu yll deu a'r hutlath yny
25 uydant yn eu cnawt eu hun. "A wyr," heb ef, "o
26 gwnaethauch gam ymi, digawn y buawch ym poen, a
27 chywilyd mawr a gawssawch, bot<ms. p. 93>plant o bob un o
1 honawch o'y gilid. Perwch enneint y'r gwyr, a golchi
2 eu penneu, ac eu kyweiraw." A hynny a berit udunt.
3 A guedy ymgueiraw ohonunt,
4 "A wyr," heb ef, "tangneued a gawsawch, a
5 cherennyd a geffwch. A rodwch im kynghor pa
6 uorwyn a geisswyf." "Arglwyd," heb y Guydyon uab
7 Don, "hawd yw dy gynghori. Aranrot uerch Don, dy
8 nith uerch dy chwaer."
9 Honno a gyrchwyt attaw. Y uorwyn a doeth
10 ymywn. "A uorwyn," heb ef, "a wyt uorwyn di?"
11 "Ny wnn i
12 hutlath a'y chamu. "Camha di dros honn," heb ef, "ac
13 ot wyt uorwyn, mi a ednebydaf." Yna y camawd hitheu
14 dros yr hutlath, ac ar y cam hwnnw, adaw mab brasuelyn
15 mawr a oruc. Sef a wnaeth y mab, dodi diaspat
16 uchel. Yn ol diaspat y mab, kyrchu y drws a oruc hi,
17 ac ar hynny adaw y ryw bethan ohonei; a chyn cael o
18 neb guelet yr eil olwc arnaw, Guydyon a'y kymerth, ac
19 a droes llen o bali yn y gylch, ac a'e cudyawd. Sef y
20 cudyawd, y mywn llaw gist is traed y wely.
21 "Ie," heb [Math uab]
22 uedydyaw hwn," wrth y mab brasuelyn. "Sef enw a
23 baraf, Dylan." Bedydyaw a wnaethpwyt y mab, ac y
24 gyt ac y bedydywyt, y mor a gyrchwys.<ms. p. 94>Ac yn y lle,
25 y gyt ac y doeth y'r mor, annyan y mor a gauas, a chystal
26 y nouyei a'r pysc goreu yn y mor, ac o achaws hynny y
27 gelwit Dylan Eil Ton. Ny thorres tonn adanaw eiryoet.
1 A'r ergyt y doeth y angheu ohonaw, a uyrywys Gouannon
2 y ewythyr. A hwnnw a uu trydyd anuat ergyt.
3 Val yd oed Wydyon diwarnawt yn y wely, ac yn
4 deffroi, ef a glywei diaspat yn y gist is y draet. Kyny
5 bei uchel hi, kyuuch oed ac y kigleu ef. Sef a oruc
6 ynteu, kyuodi yn gyflym, ac agori y gist. Ac ual y hegyr,
7 ef a welei uab bychan yn rwyuaw y ureicheu o blyc y
8 llen, ac yn y guascaru. Ac ef a gymerth y mab y rwng
9 y dwylaw ac a gyrchwys y dref ac ef, lle y gwydat bot
10 gwreic a bronneu genti. Ac ymobryn a wnaeth a'r
11 wreic ueithryn y mab. Y mab a uagwyt y ulwydyn
12 honno. Ac yn oet y ulwydyn hof oed gantunt y ureisket
13 bei dwy ulwyd. A'r eil ulwydyn mab mawr oed, ac yn
14 gallu e hun kyrchu y llys. Ynteu e hun Wydyon, wedy
15 y dyuot y'r llys a synnywys arnaw. A'r mab a ymgeneuinawd
16 ac ef, ac a'y carawd yn uwy noc un dyn.
17 Yna y magwyt y mab yn y llys yny uu pedeirblwyd. A
18 hof oed y uab wyth<ms. p. 95>mlwyd uot yn gynureisket
19 A diwyrnawt ef a gerdawd yn ol Gwydyon y orymdeith
20 allan. Sef a wnaeth, kyrchu Caer Aranrot a'r mab y gyt
21 ac ef. Gwedy y dyuot y'r llys, kyuodi a oruc Aranrot yn
22 y erbyn y raessawu, ac y gyuarch guell idaw. "Duw a
23 ro da it," heb ef. "Pa uab yssyd i'th ol di?" heb hi.
24 "Y mab hwnn, mab y ti yw," heb ef. "Oy a wr, ba doi
25 arnat ti, uyg kywilydaw i, a dilyt uyg kywilyd, a'y gadw
26 yn gyhyt a hynn?" "Ony byd arnat ti gywilyd uwy no
27 meithryn o honaf i uab kystal a hwnn, ys bychan a beth
1 uyd dy gywilyd di." "Pwy enw dy uab dy?" heb hi.
2 "Dioer," heb ef, "nit oes arnaw un enw etwa." "Ie,"
3 heb hi, "mi a dynghaf dyghet idaw, na chaffo enw yny
4 caffo y genhyf i." "Dygaf y Duw uyg kyffes," heb ef,
5 "direit wreic wyt, a'r mab a geiff enw, kyt boet drwc
6 genhyt ti. A thitheu," heb ef, "yr hwnn yd wyt ti, ac
7 auar arnat am na'th elwir y uorwyn, ni'th elwir bellach
8 byth yn uorwyn."
9 Ac ar hynny, kerdet e ymdeith drwy y lit a wnaeth,
10 a chyrchu Caer Tathyl, ac yno y bu y nos honno. A
11 thrannoeth kyuodi a oruc, a chymryt y uab gyt ac ef, a
12 mynet y orymdeith gan lann y weilgi rwng hynny ac
13 Aber Menei. Ac yn y lle y guelas delysc a morwyal,
14 hudaw llong a wnaeth. Ac o'r guimon a'r<ms. p. 96>delysc
15 hudaw cordwal a wnaeth, a hynny llawer, ac eu brithaw
16 a oruc hyt na welsei neb lledyr degach noc ef. Ac ar
17 hynny, kyweiraw hwyl ar y llong a wnaeth, a dyuot y
18 drws porth Caer Aranrot, ef a'r mab yn y llong. Ac yna
19 dechreu llunyaw esgidyeu, ac eu gwniaw. Ac yna y
20 harganuot o'r gaer.
21 Pan wybu ynteu y arganuot o'r gaer, dwyn
22 heilyw e hun a oruc, a dodi eilyw arall arnunt, ual nat
23 adnepit. "Pa dynyon yssyd yn y llong?" heb yr Aranrot.
24 "Crydyon," heb wy. "Ewch y edrych pa ryw
25 ledyr yssyd ganthunt, a pha ryw weith a wnant." Yna y
26 doethpwyt, a phan doethpwyt, yd oed ef yn brithaw
27 cordwal, a hynny yn eureit. Yna y doeth y kennadeu, a
1 menegi idi hi hynny. "Ie," heb hitheu, "dygwch
2 uessur uyn troet, ac erchwch y'r cryd wneuthur esgidyeu
3 im." Ynteu a lunywys yr esgidyeu, ac nit wrth y messur,
4 namyn yn uwy. Dyuot a'r esgidyeu idi. Nachaf yr
5 esgidyeu yn ormod. "Ryuawr yw y rei hynn," heb hi.
6 "Ef a geiff werth y rei hynn, a gwnaet heuyt rei a uo
7 llei noc wynt." Sef a wnaeth ef, gwneuthur rei ereill yn
8 llei lawer no'y throet, a'y hanuon idi. "Dywedwch
9 idaw, nit a ymi un o'r esgidyeu hynn," heb hi. Ef a
10 dywetpwyt idaw. "Ie," heb ef, "ny lunyaf esgidyeu
11 idi yny welhwyf y throet." A hynny a dywetpwyt idi.
12 "Ie," heb hi,<ms. p. 97>"mi a af hyt attaw."
13 Ac yna y doeth hi hyt y llong. A phan doeth, yd
14 oed ef yn llunyaw, a'r mab yn gwniaw. "Ie, Arglwydes,"
15 heb ef, "dyd da it." "Duw a ro da it," heb hi. "Eres
16 yw genhyf na uedrut kymedroli [ar wneuthur]
17 wrth uessur." "Na uedreis," heb ynteu. "Mi a'y
18 medraf weithon."
19 Ac ar hynny, llyma y dryw yn seuyll ar wwrd y
20 llog. Sef a wnaeth y mab, y uwrw a'y uedru y rwg
21 giewyn y esgeir a'r ascwrn. Sef a wnaeth hitheu,
22 chwerthin. "Dioer," heb hi, "ys llaw gyffes y medrwys
23 y Lleu ef." "Ie," heb ynteu, "aniolwch Duw it. Neur
24 gauas ef enw. A da digawn yw y enw. Llew Llaw
25 Gyffes yw bellach."
26 Ac yna difflannu y gueith yn delysc ac yn wimon.
1 A'r gueith ny chanlynwys ef hwy no hynny. Ac o'r
2 achaws hwnnw y gelwit ef yn drydyd eur gryd.
3 "Dioer," heb hitheu, "ni henbydy well di o uot yn
4 drwc wrthyf i.""Ny buum drwc i etwa wrthyt ti,"
5 heb ef. Ac yna yd ellyngwys ef y uab yn y bryt e hun,
6 ac y kymerth y furyf e hun. "Ie," heb hitheu, "minheu
7 a dyghaf dyghet y'r mab hwnn, na chaffo arueu byth
8 yny gwiscof i ymdanaw." "Y rof a Duw," heb ef,
9 "handid o'th direidi di, ac ef a geif arueu." Yna y
10 doethant wy parth a Dinas Dinllef. Ac yna meithryn
11 Llew Llaw Gyffes yny allwys marchogaeth pob<ms. p. 98>
12 march, ac yny oed gwbyl o bryt, a thwf, a meint.
13 Ac yna adnabot a wnaeth Gwydyon arnaw y uot yn
14 kymryt dihirwch o eisseu meirch ac arueu, a'y alw attaw
15 a wnaeth. "A was," heb ynteu, "ni a awn, ui a thi, y
16 neges auory. A byd lawenach noc yd wyt." "A hynny
17 a wnaf inheu," heb y guas.
18 Ac yn ieuengtit y dyd trannoeth, kyuodi a wnaethant,
19 a chymryt yr aruordir y uynyd parth a Brynn
20 Aryen. Ac yn y penn uchaf y Geuyn Clutno, ymgueiraw
21 ar ueirch a wnaethant, a dyuot parth a Chacr
22 Aranrot. Ac yna amgenu eu pryt a wnaethant, a
23 chyrchu y porth yn rith deu was ieueinc, eithyr y uot
24 yn prudach pryt Gwydyon noc un y guas.
25 "E porthawr," heb ef, "dos ymywn, a dywet uot
26 yma beird o Uorgannwc." Y porthawr a aeth.
27 "Graessaw Duw wrthunt. Gellwng y mywn wy," heb
28 hi. Diruawr leuenyd a uu yn eu herbyn. Yr yneuad a
1 gyweirwyd ac y wwyta yd aethpwyt. Guedy daruot y
2 bwyta, ymdidan a wnaeth hi a Guydyon am chwedleu
3 a chyuarwydyt. Ynteu Wydyon kyuarwyd da oed.
4 Guedy bot yn amser ymadaw a chyuedach, ystauell
5 a gweirwyt udunt wy, ac y gyscu yd aethant. Hir
6 bylgeint Guydyon a gyuodes. Ac yna y gelwis ef y hut
7 a'y allu attaw.<ms. p. 99>Erbyn pan oed dyd yn goleuliau, yd
8 oed gyniweir ac utkyrn a lleuein yn y wlat yn gynghan.
9 Pan ydoed y dyd yn dyuot, wynt a glywynt taraw drws
10 yr ystauell, ac ar hynny Aranrot yn erchi agori. Kyuodi
11 a oruc y guas ieuanc, ac agori. Hitheu a doeth y mywn,
12 a morwyn y gyt a hi. "A wyrda," heb hi, "lle drwc yd
13 ym." "Ie," heb ynteu, "ni a glywn utkyrn a lleuein, a
14 beth a debygy di o hynny?" "Dioer," heb hi, "ni
15 chawn welet llyw y weilgi gan pob llong ar torr y gilyd.
16 Ac y maent yn kyrchu y tir yn gyntaf a allont. A pha
17 beth a wnawni?" heb hi. "Arglwydes," heb y Gwydyon,
18 "nyt oes in gynghor, onyt caeu y gaer arnam, a'y chynhal
19 yn oreu a allom." "Ie," heb hitheu, "Duw a dalho
20 ywch. A chynhelwch chwitheu; ac yma y keffwch
21 digawn o arueu."
22 Ac ar hynny, yn ol yr arueu yd aeth hi. A llyma
23 hi yn dyuot, a dwy uorwyn gyt a hi, ac arueu deu wr
24 gantunt. "Arglwydes," heb ef, "gwisc ymdan y
25 gwryanc hwnn. A minheu, ui a'r morynyon, a wiscaf
26 ymdanaf inheu. Mi a glywaf odorun y gwyr yn dyuot."
27 "Hynny a wnaf yn llawen." A guiscaw a wnaeth hi
28 amdanaw ef yn llawen, ac yn gwbyl.
1 "A derw," heb ef, "wiscaw amdan y gwryanc
2 hwnnw?" "Deryw," heb hi. "Neu deryw y minheu,"
3 <ms. p. 100>heb ef. "Diodwn yn arueu weithon; nit reit ynn
4 wrthunt." "Och," heb hitheu, "paham? Llyna y
5 llynghes yng kylch y ty." "A wreic, nit oes yna un
6 llynghes." "Och !" heb [hi], "pa ryw dygyuor a uu o
7 honei?" "Dygyuor," heb ynteu, "y dorri dy dynghetuen
8 am dy uab, ac y geissaw arueu idaw. Ac neur
9 gauas ef arueu, heb y diolwch y ti." "E rof a Duw,"
10 heb hitheu, "gwr drwc wyt ti. Ac ef a allei llawer mab
11 colli y eneit am y dygyuor a bereisti yn y cantref hwnn
12 hediw. A mi a dynghaf dynghet idaw," heb hi, "na
13 chaffo wreic uyth, o'r genedyl yssyd ar y dayar honn yr
14 awr honn." "Ie," heb ynteu, "direidwreic uuost eiroet,
15 ac ny dylyei neb uot yn borth it. A gwreic a geif ef ual
16 kynt."
17 Hwynteu a doethant at Math uab Mathonwy, a
18 chwynaw yn luttaf yn y byt rac Aranrot a wnaethant, a
19 menegi ual y paryssei yr arueu idaw oll. "Ie," heb y
20 Math, "keisswn ninheu
21 hudaw gwreic idaw ynteu o'r blodeu." Ynteu yna a meint
22 gwr yndaw ac yn delediwhaf guas a welas dyn eiroet.
23 Ac yna y kymeryssant wy blodeu y deri, a blodeu y
24 banadyl, a blodeu yr erwein, ac o'r rei hynny, asswynaw
25 yr un uorwyn deccaf a thelediwaf a welas dyn eiroet.
26 Ac y bedydyaw<ms. p. 101>o'r bedyd a wneynt yna, a dodi
27 Blodeued arnei.
1 Gwedy y kyscu y gyt wy ar y wled, "Nyt hawd,"
2 heb y Guydyon, "y wr heb gyuoeth idaw ossymdeithaw."
3 "Ie," heb y Math, "mi a rodaf idaw yr un
4 cantref goreu y was ieuanc y gael." "Arglwyd," heb ef,
5 "pa gantref yw hwnnw?" "Cantref Dinodig," heb ef.
6 A hwnnw a elwir yr awr honn Eiwynyd ac Ardudwy.
7 Sef lle ar y cantref y kyuanhedwys lys idaw, yn y lle a
8 elwir Mur Castell, a hynny yg gwrthtir Ardudwy.
9 Ac yna y kyuanhedwys ef, ac y gwledychwys. A phawb a
10 uu uodlawn idaw, ac y arglwydiaeth.
11 Ac yna treigylgueith kyrchu a wnaeth parth a Chaer
12 Dathyl e ymwelet a Math uab Mathonwy. Y dyd yd
13 aeth ef parth a Chaer Tathyl, troi o uywn y llys a wnaeth
14 hi.
15 hyd blin yn mynet heibaw, a chwn a chynydyon yn y ol.
16 Ac yn ol y cwn a'r kynydyon, bagat o wyr ar traet
17 yn dyuot. "Ellynghwch was," heb hi, "e wybot pwy
18 yr yniuer." Y gwas a aeth, a gouyn pwy oedynt.
19 "Gronw Pebyr yw hwnn, y gwr yssyd arglwyd ar Benllyn,"
20 heb wy. Hynny a dywot y guas idi hitheu.
21 Ynteu a gerdwys yn ol yr hyd. Ac ar Auon Gynnwael
22 gordiwes yr hyd a'y lad. Ac wrth ulingyaw<ms. p. 102>yr
23 hyd, a llithyaw y gwn, ef a uu yny wascawd y nos arnaw.
24 A phan ytoed y dyd yn atueilaw, a'r nos yn nessau, ef a
25 doeth heb porth y llys.
26 "Dioer," heb hi, "ni a gawn yn goganu gan yr
27 unben o'e adu y prytwn y wlat arall, onys guahodwn."
1 "Dioer, Arglwydes," heb wy, "iawnhaf yw y wahawd."
2 Yna yd aeth kennadeu yn y erbyn y wahawd. Ac yna
3 y kymerth ef [y] wahawd yn llawen, ac y doeth y'r llys,
4 ac y doeth hitheu yn y erbyn y graessawu, ac y gyuarch
5 well idaw. "Arglwydes, Duw a dalho it dy lywenyd,"
6 [heb ef]. Ymdiarchenu, a mynet y eisted a wnaethant.
7 Sef a wnaeth Blodeued, edrych arnaw ef, ac yr awr yd
8 edrych, nit oed gyueir arnei hi ny bei yn llawn o'e garyat
9 ef. Ac ynteu a synywys arnei hitheu; a'r un medwl a
10 doeth yndaw ef ac a doeth yndi hitheu. Ef ny allwys
11 ymgelu o'e uot yn y charu, a'e uenegi idi a wnaeth.
12 Hitheu a gymerth diruawr lywenyd yndi. Ac o achaws
13 y serch, a'r caryat, a dodassei pob un o honunt ar y gilyd,
14 y bu eu hymdidan y nos honno. Ac ny bu ohir e ymgael
15 o honunt, amgen no'r nos honno. A'r nos honno kyscu
16 y gyt a wnaethant.
17 A thrannoeth, arouun a wnaeth ef e ymdeith.
18 "Dioer," heb hi,<ms. p. 103>"nyt ey y wrthyf i heno." E nos
19 honno y buant y gyt heuyt. A'r nos honno y bu yr
20 ymgynghor ganthunt pa furu y kehynt uot yg kyt.
21 "Nyt oes gynghor it," heb ef, "onyt un; keissaw y
22 ganthaw gwybot pa furu y del y angheu, a hynny yn
23 rith ymgeled amdanaw."
24 Trannoeth, arouun a wnaeth. "Dioer, ni chyghoraf
25 it hediw uynet e wrthyf i." "Dioer, canys kynghory
26 ditheu, nit af inheu," heb ef. "Dywedaf hagen uot yn
27 perigyl dyuot yr unben bieu y llys adref." "Ie," heb
28 hi, "auory, mi a'th ganhadaf di e ymdeith."
1 Trannoeth, arouun a wnaeth ef, ac ny ludywys
2 hitheu ef. "Ie," heb ynteu, "coffa a dywedeis wrthyt,
3 ac ymdidan yn lut ac ef; a hynny yn rith ysmalawch
4 caryat ac ef. A dilyt y gantaw pa ford y gallei dyuot y
5 angheu."
6 Enteu a doeth adref y nos honno. Treulaw y dyd
7 a wnaethant drwy ymdidan, a cherd, a chyuedach. A'r
8 nos honno y gyscu y gyt yd aethant. Ac ef a dywot
9 parabyl, a'r eil wrthi. Ac yn hynny parabyl nis cauas.
10 "Pa derw yti," heb ef, "ac a wyt iach di?" "Medylyaw
11 yd wyf," heb hi, "yr hynn ny medylyut ti amdanaf
12 i. Sef yw hynny," heb hi, "goualu am dy angheu di, ot
13 elut yn gynt no miui." "Ie," heb ynteu, "Duw a dalho
14 it dy ymgeled. Ony'm<ms. p. 104>llad i Duw hagen, nit hawd
15 uy llad i," heb ef. "A wney ditheu yr Duw ac yrof inheu,
16 menegi ymi ba furu y galler dy lad ditheu? Canys guell
17 uyghof i wrth ymoglyt no'r teu di." "Dywedaf yn
18 llawen," heb ef. "Nit hawd uy llad i," heb ef, "o ergyt.
19 A reit oed uot blwydyn yn gwneuthur y par y'm byrhit i
20 ac ef, a heb gwneuthur dim o honaw, namyn pan uythit
21 ar yr aberth duw Sul." "Ae diogel hynny?" heb hi.
22 "Diogel, dioer," heb ef. "Ny ellir uy llad i y mywn ty,"
23 heb ef, "ny ellir allan; ny ellir uy llad ar uarch, ny ellir
24 ar uyn troet." "Ie" heb hitheu, "pa delw y gellit dy
25 lad ditheu?" "Mi a'e dywedaf yti," heb ynteu. "Gwneuthur
26 ennein im ar lan auon, a gwneuthur cromglwyt uch
27 benn y gerwyn, a'y thoi yn da didos wedi hynny hyhitheu.
28 A dwyn bwch," heb ef, "a'y dodi gyr llaw y gerwyn, a
1 dodi ohonof uinheu y neill troet ar geuyn y bwch, a'r
2 llall ar emyl y gerwyn. Pwy bynnac a'm metrei i yuelly,
3 ef a wnay uy angheu." "Ie," heb hitheu, "diolchaf y
4 Duw hynny. Ef a ellir rac hynny dianc yn hawd."
5 Nyt kynt noc y cauas hi yr ymadrawd, noc y hanuones
6 hitheu at Gronw Pebyr. Gronw a lauurywys
7 gueith y guayw, a'r un dyd ym penn y ulwydyn y bu
8 barawt. A'r dyd hwnnw y peris ef idi hi guybot hynny.
9 <ms. p. 105>"Arglwyd," heb hi, "yd wyf yn medylyaw pa delw
10 y gallei uot yr
11 dangossy di ymi pa furu y sauut ti ar emyl y gerwyn a'r
12 bwch, o faraf uinheu yr enneint?" "Dangossaf," heb
13 ynteu.
14 Hitheu a anuones at Gronw, ac a erchis idaw bot yg
15 kyscawt y brynn a elwir weithon Brynn Kyuergyr; yglan
16 Auon Kynuael oed hynny. Hitheu a beris kynnullaw a
17 gauas o auyr yn y cantref a'y dwyn o'r parth draw y'r
18 auon, gyuarwyneb a Bryn Kyuergyr,
19 A thrannoeth hi a dywot, "Arglwyd," heb hi, "mi
20 a bereis kyweiraw y glwyt, a'r ennein, ac y maent yn
21 barawt." "Ie," heb ynteu, "awn eu hedrych yn
22 llawen." Wy a doethant trannoeth y edrych yr enneint.
23 "Ti a ey y'r ennein, Arglwyd?" heb hi. "Af yn
24 llawen," heb ef. Ef a aeth y'r ennein, ac ymneinaw a
25 wnaeth. "Arglwyd," heb hi, "llyma yr aniueileit a
26 dywedeisti uot bwch arnunt." "Ie," heb ynteu, "par
27 dala un ohonunt, a phar y dwyn yma." Ef a ducpwyt. Yna
1 y kyuodes ynteu o'r ennein a guiscaw y lawdyr amdanaw,
2 ac y dodes y neilltroet ar emyl y gerwyn, a'r llall ar
3 geuyn y bwch.
4 Ynteu Gronw a gyuodes e uynyd o'r brynn a elwir
5 Brynn Kyuergyr, ac ar benn y neill glin y kyuodes, ac
6 a'r guenwynwayw y uwrw, a'y uedru yn y ystlys, yny
7 <ms. p. 106>neita y paladyr ohonaw, a thrigyaw y penn yndaw.
8 Ac yna bwrw ehetuan o honaw ynteu yn rith eryr, a dodi
9 garymleis anhygar. Ac ny chahat y welet ef odyna y
10 maes.
11 Yn gyn gyflymet ac yd aeth ef e ymdeith, y kyrchyssant
12 wynteu y llys, a'r nos honno kyscu y gyt. A
13 thrannoeth kyuodi a oruc Gronw, a guereskyn Ardudwy.
14 Guedy gwreskyn y wlat, y gwledychu a wnaeth yny oed
15 yn y eidaw ef Ardudwy a Phenllyn.
16 Yna y chwedyl a aeth at Math uab Mathonwy.
17 Trymuryt a goueileint a gymerth Math yndaw, a mwy
18 Wydyon noc ynteu lawer. "Arglwyd," heb y Guydyon,
19 "ny orffwyssaf uyth, yny gaffwyf chwedleu y wrth uy
20 nei." "Ie," heb y Math, "Duw a uo nerth yt." Ac yna
21 kychwynnu a wnaeth ef, a dechreu rodyaw racdaw, a
22 rodyaw Gwyned a wnaeth, a Phowys yn y theruyn.
23 Guedy rodyaw pob lle, ef a doeth y Aruon, ac a doeth
24 y ty uab eillt, ymaynawr Bennard.
25 Diskynnu yn y ty a wnaeth, a thrigyaw yno y nos
26 honno. Gwr y ty a'y dylwyth a doeth ymywn, ac yn
27 diwethaf y doeth y meichat. Gwr y ty a dywot wrth y
28 meichat, "A was," heb ef, "a doeth dy hwch di heno
1 y mywn?" "Doeth," heb ynteu, "yr awr honn y doeth
2 at y moch." "Ba ryw gerdet," heb y Guydyon, "yssyd
3 ar yr hwch honno?" "Ban a-<ms. p. 107>gorer y creu beunyd
4 yd a allan. Ny cheir craf arnei, ac ny wybydir ba ford
5 yd a, mwy no chyn elei yn y daear." "A wney di," heb
6 y Guydyon, "yrofi, nat agorych y creu yny uwyf i yn y
7 neillparth y'r creu y gyt a thi?" "Gwnaf yn llawen,"
8 heb ef. Y gyscu yd aethant y nos honno.
9 A phan welas y meichat lliw y dyd, ef a deffroes
10 Wydyon, a chyuodi a wnaeth Gwydyon, a guiscaw amdanaw
11 a dyuot y gyt [ac ef] a seuyll wrth y creu. Y
12 meichat a agores y creu. Y gyt ac y hegyr, llyma hitheu
13 yn bwrw neit allan, a cherdet yn braf a wnaeth, a
14 Guydyon a'y canlynwys. A chymryt gwrthwyneb auon
15 a wnaeth, a chyrchu nant a wnaeth, a elwir weithon
16 Nantllew, ac yna guastatau a wnaeth, a phori.
17 Ynteu Wydyon a doeth y dan y prenn, ac a edrychwys
18 pa beth yd oed yr hwch yn y bori; ac ef a welei yr
19 hwch yn pori kic pwdyr a chynron. Sef a wnaeth ynteu,
20 edrych ym blaen y prenn. A phan edrych, ef a welei
21 eryr ym blaen y prenn. A phan ymyskytwei yr eryr, y
22 syrthei y pryuet a'r kic pwdyr o honaw, a'r hwch yn
23 yssu y rei hynny. Sef a wnaeth ynteu, medylyaw y mae
24 Lleu oed yr eryr, a chanu englyn: --
25 "Dar a dyf<ms. p. 108>y rwng deu lenn,
26 Gorduwrych awyr a glenn.
27 Ony dywedaf i eu,
28 O ulodeu Lleu
1 Sef a wnaeth ynteu yr eryr, ymellwng yny oed yg
2 kymerued y prenn. Sef a wnaeth ynteu Wydyon, canu
3 englyn arall: --
4 "Dar a dyf yn ard uaes,
5 Nis gwlych glaw, mwy
6 Ugein angerd a borthes.
7 Yn y blaen, Lleu
8 Ac yna ymellwng idaw ynteu, yny uyd yn y geing issaf
9 o'r pren. Canu englyn idaw ynteu yna: --
10 "Dar a dyf dan anwaeret,
11 Mirein modur
12 Ony dywedaf i [eu]
13 Ef dydau Lleu
14 Ac y dygwydawd ynteu ar lin Gwydyon; ac yna y
15 trewis Gwydyon a'r hudlath ynteu, yny uyd yn y rith
16 e hunan. Ny welsei neb ar wr dremynt druanach hagen
17 noc a oed arnaw ef. Nit oed dim onyt croen ac ascwrn.
18 Yna kyrchu Caer Dathyl a wnaeth ef, ac yno y
19 ducpwyt a gahat o uedic da yg Gwyned wrthaw. Kyn
20 kyuyl y'r ulwydyn, yd oed ef yn holl iach. "Arglwyd,"
21 heb ef, wrth Math uab Mathonwy, "madws oed y mi
22 caffael iawn gan y gwr y keueis ouut gantaw." "Dioer,"
23 heb y Math, "ny eill ef ymgynhal, a'th iawn di gantaw."
24 "Ie," heb ynteu, "goreu yw genhyf i bo kyntaf y
25 caffwyf iawn."
26 Yna dygyuoryaw<ms. p. 109>Gwyned a wnaethant, a
27 chyrchu Ardudwy. Gwydyon a gerdwys yn y blaen, a
28 chyrchu Mur Castell a oruc. Sef a wnaeth Blodeuwed,
1 clybot eu bot yn dyuot, kymryt y morynyon gyt a hi, a
2 chyrchu y mynyd; a thrwy Auon Gynuael kyrchu llys a
3 oed ar y mynyd. Ac ni wydyn gerdet rac ouyn, namyn ac
4 eu hwyneb tra eu keuyn. Ac yna ni wybuant yny syrthyssant
5 yn y llyn ac y bodyssant oll eithyr hi e hunan.
6 Ac yna y gordiwawd Gwydyon hitheu, ac y dywot
7 wrthi, "Ny ladaf i di. Mi a wnaf yssyd waeth it. Sef
8 yw hynny," heb ef, "dy ellwng yn rith ederyn. Ac o
9 achaws y kywilyd a wnaethost ti y Lew Llaw Gyffes,
10 na ueidych ditheu dangos dy wyneb lliw dyd byth, a
11 hynny rac ouyn yr holl adar. A bot gelynyaeth y
12 rynghot a'r holl adar. A bot yn anyan udunt dy uaedu;
13 a'th amherchi, y lle i'th gaffant. Ac na chollych dy enw,
14 namyn dy alw uyth yn Blodeuwed."
15 Sef yw Blodeuwed, tylluan o'r ieith yr awr honn.
16 Ac o achaws hynny y mae digassawc yr adar y'r tylluan:
17 ac ef a elwir etwa y dylluan yn Blodeuwed.
18 Ynteu Gronwy Pebyr a gyrchwys Penllyn, ac odyno
19 ymgynnatau
20 gouyn a wnaeth y Lew Llaw Gyffes, a uynnei<ms. p. 110>ae tir
21 ae dayar, ae eur, ae aryant, am y sarhaet. "Na
22 chymeraf, y Duw dygaf uyg kyffes," heb ef. "A llyma
23 y peth lleiaf a gymeraf y gantaw; mynet y'r lle yd
24 oedwn i ohonaw ef, ban im byryawd a'r par, a minheu y
25 lle yd oed ynteu. A gadel y minheu y uwrw ef a phar.
26 A hynny leiaf peth a gymeraf y gantaw."
27 Hynny a uenegit y Gronw Bebyr. "Ie," heb ynteu,
1 "dir yw ymi gwneuthur hynny. Wy gwyrda kywir, a'm
2 teulu, a'm brodyr maeth, a oes ohonawch chwi, a gymero
3 yr ergyt drossof i?" "Nac oes, dioer," heb wynt. Ac
4 o achaws gomed ohonunt wy diodef kymryt un ergyt
5 dros eu harglwyd, y gelwir wynteu, yr hynny hyt hediw,
6 trydyd Anniweir Deulu.
7 "Ie," heb ef, "mi a'e kymeraf." Ac yna y
8 doethant yll deu hyt ar lan Auon Gynuael. Ac yna y
9 seui
10 ban y byryawd ef, a Llew yn y lle yd oed ynteu. Ac yna
11 y dyuot Gronwy Bebyr wrth Llew, "Arglwyd," heb ef,
12 "canys o drycystryw gwreic y gwneuthum yti a
13 wneuthum, minheu a archaf yti, yr Duw, llech a welaf ar
14 lan yr auon, gadel ym dodi honno y rynghof a'r
15 dyrnawt." "Dioer," heb y Llew, "ni'th omedaf o
16 hynny." "Ie," heb ef, "Duw a dalho it." Ac yna y
17 kymerth Gronwy y llech ac y dodes<ms. p. 111>y ryngtaw a'r
18 ergyt. Ac yna y byryawd Llew ef a'r par, ac y guant
19 y llech drwydi, ac ynteu drwydaw, yny dyrr y geuynn.
20 Ac yna y llas Gronwy Bebyr, ac yno y mae y llech
21 ar lan Auon Gynuael yn Ardudwy, a'r twll drwydi. Ac
22 o achaws hynny ettwa y gelwir Llech Gronwy.
23 Ynteu Llew Llaw Gyffes a oreskynnwys eilweith y
24 wlat, ac y gwledychwys yn llwydanhus. A herwyd y
25 dyweit y kyuarwydyt, ef a uu arglwyd wedy hynny ar
26 Wyned.
27 Ac yuelly y teruyna y geing honn o'r Mabinogi.<ms. p. >